Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhif. 2.] MEDI, 1835. [Cyf. I. COFIANT Y PARCH. JONATHAN JONES, GYNT O RYDYBONT, WEDI HYNY 0 DROEDYRHIW. Ganwyd Mr. Jones yn mhlwyf Abergwili, yn swydd Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1745, yn agos i Gapel Llanfihangel; yr oedd y ieuangaf o bump o blant i John a Mary Mor- gan, y rhai, gan amlaf, a addolent yn y capel uchod. Yr oedd eu mab Jo- nathan yn wr ieuanc o gynneddfau cryfion, rhagorai ar y rhan fwyaf o'i gyfoedion mewn amgyffredion a gwybodaeth, ac yr oedd yn dra chywraint pan yn gweithio gyda'i dad wrth gelfyddyd gôf. Dysgodd ddarllen Cymraeg yn foreu iawn, a defnyddiai y fantais i ddangos ei ra- goriaeth ; ond, er galar i'w rieni, nid mewn daioni y byddai yn blaenori, ond mewn maswedd a digrifwch; difyrwch ieuenctydaidd, cellwair, ac ysgafnder oeddynt yn ei oddiweddyd fwyaf. Dywedai na byddai un amser yn euog o'r pechodau a gyfrifid gan y byd yn waradwyddus ; er hyny, yr oedd mor hynod mewn digrifwch a gwagedd, fel nad oedd un gyfeillach yn werth bod ynddi, yn marn yr ieuenctyd, os byddai Jonathan yn eisieu. Ond gan nad oedd yn gwbl ddyeithr i argyhoeddiadau cydwybod, efFeithiodd ei ymddygiad yn ddwys iawn arno unwaith, a pharodd gym- maint o aflonyddwch meddwl iddo, nes rhoi terfyn bythol ar y rhan hyny o'i wasanaeth i satan. " Dyg- wyddodd, (meddai,) fod yn yr ardal wylnos, i'r hon, yn ol arferiad yr oes, yr âi ieuenctyd, i dreulio y nos mewn §wag-siarad, heb un ystyriaeth o'r rhybydd o'u blaen; ond wedi bod yno, lawer o honynt, am hir amser, heb gwmpeini y cyfaill digrif teim- lent yn dra siomedig, gan ryfeddu fy mod cyhyd heb ddyfod, ac etto yn parhau i'm dysgwyl; o'r diwedd, mi a gyrhaeddais y tý, a mawr y sibrwd —Dymafe! dymafe! a gtcnetüch le ! yr hyn a gyrhaeddodd fy nghlust a'm calon, nes creu ynof bender- fyniad, mewn tarawiad amrant, i beidio eistedd na dywedyd un gair, ond ffwrdd a mi, gan ddywedyd ynof fy hun, Beth! ai myfi yw pen y gamp yn mhob man, a'r offeryn difyrwch nas gellir gwneuthur heb- ddo ?" Gwasgai hyn yn fawr ar ei feddwl, nes ei arafu ar y pen hwn, ond nid digon i'w droi o gyfeiliorni ei flỳrdd. Ni fyddai Mr. Jones yn yramser yma yn gwbl ddyeithr i argyhoedd- iadau dan y gair. Pant-teg oedd yr unig fan yn yr ardal He cyfarfyddai yr Ymneillduwyr, ac yno yr ai yn aml, ond nid mor aml ag y mỳnai i'w rîeni gredu; oblegid byddai yn fynych yn eu twyllo, pan nad elai, trwy ymofyn â rhyw un o'r aelodau am y testun, cyrt myned i dre, fel y credent yn rhwyddach iddo fod yn Mhant-teg ; yn hyn yr oedd yn Hwyddo, ond nid i foddlonrwydd Dnw na'i gydwybod ei hun: ni chai, bob amser, yr es- mwythdra a chwennychai wrth dros- eddu deddfau Iôr.—Fel%iaeffyrddyr Arglwydd, yn atpl, yn dra anolrhein- adwy a rhyfed^ tuag at y rhai y