Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhif. 59.] MEHEFIN, 1340. [Cyf. V. ^COFIANT MR. JAMES EVANS, O'R GIGUOG, PLWYF BRIDETH, GER HWLFFORDD, DYFED. Ysgrifenu cofiantau dynion rhin- weddol a defnyddiol yn eu dydd, drwy yr hyn y clodforir y gras Dwy- fol a weithredai ynddynt, y teilwng berchir eu coffadwriaeth yn ol eu hyraadawiad, ac y cynnygir eu hen- ghreifftiau i sylw ac efelychiad ereill, a ystyrir yn gyffredin yn waith addas a chanmoladwy. Tra y saif enwog- ion cyhoeddus mewn rhinwedd a def- nyddioldeb yn uchel yn llechres bod- olion fel gwrthddrychau tratheilwng o fod mewn coffadwriaeth, dios fod nodweddiadau llai enwog, yn troi mawn cylchoedd mwy anghyoedd yn ymarferiadau rhinwedd a defnydd- garwch, yn addas i gael cyfran o'r unrhyw goffadwriaeth hefyd. A geill fod hanes bywydau rhai o'r fath hyny yn fwy cynhyrfioladilynadwy, yn aml, i nodweddiadau arferol yn mhlith y graddau cyffredin o ganlyn- wyr Crist, nâ bywgrafíìadau dillyn- wych a phencampus enwogion hyn- otach ar faes crefydd. Ystyriaethau o'r cyffelyb, gyda chais Cyhoeddwyr y Diwygiwr i'r perwyl, a barai i'r ysgrifenydd ffurfio yr ychydig ad- roddiadau canlynol yn null Cofiant bychan i'w anwyl ewythr ymadaw- edig, gan hyderu y byddant o ryw duedd dda i'r darllenwyr. Ganwyd gwrthddrych y cofiant hwn yn Treaser, yn y plwyf uchod, ar y 30ain o Awst, 1794. Gyda'i riaint, ac aelodau ereill y teulu, gor- chwylid ef yn more ei oes gyda pher- wylion araaethyddol, yr hyn, ynghyd â'i gelfyddyd fel dilledydd, fuont yn brif orchwylion tymhorol ei fywyd. Ymbriodai yn y flwyddyn 1821, â Lettice Thomas, Long-hill, plwyf y Garn, a buont fyw ynghyd niewn amgylchiadau cysurus hyd nes y gwnaeth augeu yr ysgariad sydd i fod yn awr dan sylw. Ni bu iddynt ond un plentyn, yr hwn a gânai yn iach i fyd y marwolion cyn gynted braidd ag yr anadlodd ynddo. Treu- lient y rhan ddiweddaf, a'r rhan hwyaf hefyd o'r cyswllt priodasol yn y breswyl ac ar y tyddyn a ddyg yr enw a nodwyd uchod, yn y plwyf hwn. Nid yw yn mwriad yr ysgrifenydd i wneyd adroddiad raaith a diberwyl o wahanol helyntion gyrfa dymhorol yr ymadawedig, amcana yn unig i osod gerbron rai o'i nodweddau fel dyn ac fel Cristion, gydag adrodd- iad byr o amgylchiadau gorpheniad ei daith ddaearol; ac yn ganlynol gadewir braidd y cwbl o bethau ereill ei fywyd yn ddisylw, gan na fyddent o un gwerth i'r cyffredin. Yr oedd yn ddyn hynaws a chym- mwynasgar, heddychlawn a phwylíog, dystaw athawel ei dymher, araf etto penderfynol ei ysbryd ; yr oedd yn ddiwyd a llafurus yn ei berwylion celfyddydol ac amaethyddol drwy ei oes; yr oedd yn ddarllenwr mawr, awyddus, a chysson iawn, yn dra hoff o hynafiaethau a hanesyddiaeth ya eu holl ddosparthiadau, yn enwedig eiddo Cymru; yn bleidiol i lëenydd- 22