Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhif. 69.] EBRILL, 1841. [Cyf. VI. vBYR-GOFIANT MR. STEPHEN ÜRIFFITHS, ESGERGYNDDU. Crybwyllwyd am farwolaeth yr hen frawd uehod yn y Diwygiwr o'r blaen, ond gan fod " Coffadwr- iaeth y cyfiawn yn fendigedig," nid botldlon ydym i ddweyd, Efe a fu fartü yn unig, heb gynnyg codi colofn er arddangos hefyd y rhinweddau oeddent yn dysgleirio yn ei fywyd, fel y gallo ei olafiaid gael y fantais o edrych arno etto, ac ymdebygu iddo. Bu am tua phymtheg mlynedd ar hugain yn aelod hardd yn mysg yr Annibynwyr, yn Abergorlech, a bu yn gwasanaethu swydd diacon yu ffyddlawn am lawer o'r blynyddau hyny. Fel crefyddwr, gellir dyvvedyd am dano ei fod yn un o'r rhai mwyaf diniwed yn y byd. Clywais ef yn dywedyd na bu yn ymgyfreithio â neb erioed. Nid anrhydedd i Dy- wysog Tangnefedd fod ei ganlynwyr )n negeseua rhyw lawer i lysoedd y gyfraith. Gall dyn duwiol gael ei orfodi i hyn weithiau; ond mae ym- ddygiadau rhai yn peri i ni feddwl niai eu pleser yw bod â'u bysedd niewn rhyw gwerylon braidd yn was- tadol: ond pell oddiwrth hyn oedd e'e; tangnefeddwr ydoedd yn mhob *nan; nidwyf yn gwybod i mi adna- °od neb ag oedd yn fwy gwyliadwrus ^hag rhoi a chymmeryd tramgwydd. Cjŵyr y rhai a'i hadwaenent na bu ef yn ennyn unrhyw derfysg mewn byd nac eglwys erioed. Nid tueddol J'doedd i ddywedyd llawer, ond yr oedd yr oll a ddywedai yn tueddu i gariad a tliangnefedd. Yr oedd yn ochelgar iawn wrth siarad am enwau ereill, rhag dywedyd dim yn ddrwg am neb, a byddai yn fwy parod i goff- hâu rhinweddau pawb nâ'u beiau, yn enwedig yn eu cefnau. Nid oedd byth yn ymofyn cael ei weled gan ddynion; mae rhai hen bobl braidd na fynant i bawb eu haddoli hwynt, a hyny oblegid eu bod yn hen, ond ni chly wyd erioed o hono ef yn diys- tyru neb trwy ddywedyd, Yr wyffi yn hynach yma nâ chwi. Ni wnai ddim heb ymgynghori â'i frodyr, a chymmerai gyfarwyddyd yn ostyng- edig a diolchgar gan rai llawer ieu- angach nag ef ei hun ; mewn gair, yr oedd mor ddiniwed â'r oen—mor ostyngedig â'r baban—ac yn cwbl gydymffurfio à chynghor yr apostol yn Phil. 2, 14, 15. Bu yn dra diwyd gyda chrefydd am ei dymmor; nid aml y gwelwyd ef yn absennol o gyfarfodydd yr eglwys, ac os buasai weithiau yn eisieu, buasai pawb yn barod i ofyn, Lle yr oedd Stepheti heddyio, gan fod ei absennoldeb yn beth mor anar- ferol, ac ni ddarfu iddo dynu ei ys- gwydd ymaith er gochel un baich erioed. Fel diacon yr oedd yn ofalus i gadw ei gyfrifon yn gywir; fel y cyfryw yr oedd yn i(onest, nid yn ddaueiriog, nidynymroi i win lawer, nidyn budr-ehüa" 1 Tim. 3. 8. Caf- odd rhai eglwysi ofid weithiau trwy orfod cymmell y diaconiaid i ddyfod â'u cyfrifon i raewn, ond yr oedd efe 13