Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

/èrÁi i Y DIWYGIWR. Hhif. 73.] AWST, 1841. [Cyf. VJ£ HANES JULIUS C7ESAR. Julius Cìesar oedd fab i Lucius Caesar, ac Aurelia merch Cetta, ac amherawdwr cyntaf Rhufain. Pan oedd yn nghylch pymtheg mlwydd oed, bu farw ei dad ; a'r flwyddyn ganlynol gwnaethwyd ef yn ofieiriad Jupiter. Sylla, y prif reolwr, yn gwybod am ei awydd dibaid, a'i uchel-gais am ddyfod yn enwog, a ymdrechodd ei syniud ; yntau, pan ddeallodd hyn, er mwyn amddiffyn ei hun, a newidiodd ei lety bob dydd, ond ar un noson a ddaliwyd gan fil- wyr Sylla, y rhai oeddynt yn chwilio )' rhanau hyny o'r wlad am y cyfryw ag oedd yn ymguddio; ond Csesar, trwy wobr o ddwy dalent, a lwydd- odd gyda eu blaenor i'w ollwng yn rhydd; ac yna efe a gymmerodd y môr, ac a hwyliodd i Bithynia. Wedi aros yno ychydig gyda Nicomedes y brenin, efe a ddychwelodd; ac ar ei ddychweliad, yn agos i Ynys Phar- "lacusa, a gymmerwyd gan fôr-lad- ron, y rhai a'i rhwymasant i dalu ugain talent am ei ollyngdod; a chan J'ênu arnynt, am nad oeddynt yn deall gwerth eu carcharor, yn wir- Joddol a ymrwymodd i roddi iddynt "anner cant o dalentau. Yna efe a anfonodd ei gyfeillion i wahanol anau i gasglu yr arian, ac a arosodd yn mysg ei elynion gydag un cyfaill a «au o'i weision; etto nid oedd yn \, íí ?nd ycnydig arnynt; a phan y yddai angen cysgu arno, archai idd- ynt íod yn dawel. Fel hyn y bu yn u P'ith am ddeunaw diwrnod ar hugain, mor llavven ei feddwl, a siriol ei ysbryd, â phe buasant yn ei am- ddiffyn fel brenin, ac nid yn ei wylied fel carcharor. Tra yn y sef- yllfa hon, cyfansoddodd amryw draethodau a darnau prydyddol, y rhai a ddarllenai i'w geidwaid; a'r cyfryw o honynt na welent eu pryd- ferthwch, ac na chanmolent hwynt, a alwai yn ddiddysg a barbaraidd; a chyda gwawd a digrifwch bygythiai eu crogi. Cyn gynted ag y derbyn- iodd yr arian, efe a'u talodd, ac a ryddhawyd ; ac wedi myned allan o'u gafael, efe a ddarparodd longau, ac a gymmerodd y môr-ladron, a chroes- hoeliodd y rhan amlaf o honynt. Cìesar, wedi bod am ychydigam- ser yn Rhodes, dan dywysiad Apol- lonius, a ddychwelodd i Rufain, lle yr ennillodd ei enwogrwydd, ei fywyd hael, a'i foneddigrwydd, iddo lawero gvfeillion: ac, ar farwolaeth Metel- liis, cafodd y swydd o fod yn arch- offeiriad; ac wedi myned trwy or- chwylion bychain y llywodraeth, gosodwyd ef i arolygu Spaen, lle yr enwogodd ei hun trwy ei ddewrder a'i fedrusrwydd milwraidd. Ar èi ddychweliad i Rufain cafodd ei wneu- thur yn uchel-faer (consul), a gwnaeth gymmod rhwng Crassus a Phompey. Gosodwyd ef dros bum mlynedd i arolygu y Galiaid, trwy ddylanwad Pompey, i'r hwn y rhodd- odd ei ferch Julia yn wraig. Ypryd hyn yr ëangodd derfynau y llywod- raeth Rufeinaidd trwy fuddugol- 30