Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWÍL Rhif. 132. GORPHENAF, 1846. Cyf. XI. Y PECHOD 0 GEEUIMDER TUAG AT ANIFEILIAID. GAN Y PARCH. G. GRIFFITHS, ABERHONDDü. Nio dyn yn unig sydd wedi ei osod i breswylio y ddaear, ond mae yn cael ei amery lchynu o bob tu gan greaduriaid wedi cael eu bodoliaeth gan yr un Creawdwr ag ef ei hun. Gwir fod yr Arglwydd o'i ddaioni a'i ddoethineb tuag at ddyn, wedi ei anrhyd- eddu ag arglwyddiaeth ar yr holl greadur- iaid : Gen. 1, 26; Sai. 8, 6—8; ond nid ydyw byn yn rhoddi bawl i ddyn i wneyd â hwy fel yr ewyllysio ef ei hun, ond yn ol ewyllys yr Arglwydd. Diau mai nid y lleiafo bechodaa dynolryw yw y pechod hwn ; eto tybia rhai mai doethach fyddai ei adael yn ddisylw. Addefir fod pethau sydd fwy eu pwys yn galw am ein sylw, er hyny, onid oe« perygl i hwn gael ei esgeu- luso yn ormodol, wrth dalu sylw i bethau sydd fwy. Amcenir, yn yr hyn a ganlyn, ddangog mai dyledswydd dynion yw eiriol a Hefaru dros y creaduriaid nad allantlefaru drostynt eu hunain. Hyn, mae y« debygol, a du- eddodd foneddiges grefyddol yn Edinburgh, i roddi dau cant o bunau, Hôg yr hyn sydd i gael ei roddi i ryw offeiriad cyfrifol, am draddodi pregeth yn flynyddol, ar y pechod o greulonder tuag at anifeiliaid. Mawrth 5, 1826, traddodwyd y bregeth gyntaf ar hyny gan yr enwog Dr. Chalmers. Mae y ffyrdd yn mha rai y ca y pechod hwn ei gyflawnu yn lliosog ac yn amrywio: megys gosod ar rai i wneyd yr hyn sydd uwchlaw eu gallu; nacâu i ereiü y gynal- iaeth ag y mae eu nhatur yn galw am dano; eu curo raewn nwydau ; ymddifyru ardraul eu poeni, hyd yn nod eu gosod i farwolaeth er difyrwch; gosod ereill i ymladd a di- nyttrlo eu gilydd. Y mae adara, pysgota, a hela, i ruddau pell, yn dyfod dan rai o'r cyhuddiadau byn. Gwir fod rhai o honynt wedi cael eu rhoddi i fod yn ymborth i ddyn, a bod yn rhaid eu lladd ; ond nid yn erbyn eu lladd na'a bwyta yr ydym yn ymresymu, eithr yn erbyn pob math o greulonder afreidiol tuag atynt. Gwisgir y pecbod hwn, fel pechodau ereill, â Hawer o esgus- odion, ond yn lle heiaethu ar hyny, cawa nodi rhaipethau er dangos ei ddrygedd :— 1. Maeyn drosodd arorcbymynion Duw. —Mae Duw yn gorchymyn tosturi tuag at yr anifeiliaid: " Na chau safn yr ŷch tra fyddo yn dyrnu," Deut. 25, 4 ; 1 Cor. 9, 9. " Os gweli asyn yr hwn a'th gasâ yn gor- wedd dan ei phwn, a beidi a'i gynorthwyoî gan gynorthwyo cynorthwya gydag ef," Exod. 23, 5. " Pan ddamweinio nyth aderyn i'th olwg ar y ffordd, mewn un pren, neu ar y ddaear, à chywion, neu ag wyau ynddo, a'r fam yn eistedd ar y cywion, neu ar yr wyau; na chymer y fam gyda'r cywion. Gan ollwng ti a ollyngi y fam, a'r eywion a gymeri i ti: fel y byddo daioni it', ac yr estynech dy ddyddiau," Deut. 22,6,7. Amcan y gorchymynion hyn yw dysgu hy- nawsedd tuag at greaduriaid o isel radd; ae os dysgid felly dan y gyfraith, pa faint mwy dan yr efengyl, yr bon sydd mor neillduol ya gyfundraeth cariad a thosturi. Y mae yr adnodau uchod yn cynwys egwyddorion neillduol a phwysig: y cyntaf, yn dango» fod yr anifeiliaid sydd yn Ilafurio i gael eu porthi yn dda, yn dàl am eu llafura'u lludded; yr ail, yn dangoi fod pob anifail ag a fyddo mewn perygl ueo galedi i gael ei gynorthwyo, gan nad eiddo pwy a fyddo, ie, pe y byddai yn eiddo gelyn; y trydydd, yn dysgu nad ydynt i gael eu drygu er 26