Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y MWYGIWR Rhif. 136. TACHWEDD, 1846. Cyf. XI. CANU MAWL. QAN Y PARCH, JOHN STEPHENS, BRYCHGOED, ' Canaf a'r ysbryd, A CHA.NAF a'r deall hefyd."—Paül. Mawr oedd y proffwydi a'r apostolion yn rhagori arnotn ni raewn dwyn yn mlaen ryw ddaioni yn y byd yma: medrent hwy bleidio unrhyw beth da heb wneuthur drwg i beth da arall fyddai yn ei yml; nid bob atnser y gwnawn ni hyn. Yr ydym ni mcwn perygl yn aml (o herwydd diflýg gwybodaeth, coll tymher, neu ryw goll a fyddo gwaetb)wrth geisioadeiladu un mur, i dýnu nn arall lawr fyddo â chymaint o angen ei fod ef fynu â'r hwn fyddom ni yn geisio gyfodi. Wrtb geisio dyfrhau on man ydym mewn perygl o esgeuluso man arall, pan, gydagycbydig o ddoethineb i drefnu dyfroedd gras, gellit dyfrhau y ddau ; ac wrth ein bod yn dilynun pwnc ydym mewn perygl o fyned mor belled ar ei ol nes colli ein golwg ar bwnc arall aydd mor bwysier â'r hwn y byddom ni gydag ef. Mewn gair, wrth ein bod yn ceisio gwneyd daioni i unrhyw wrthddrych, neo sefydliad da, ydym mewn perygl o wneyd drwg mawri ryw wrthddrych, nen sefydliad da arall fyddo yn ei yml. Nid felly oedd y dynion wnaeth fwyaf o dda yn y byd. Mae yn wir na fedrent hwy ddim dwyn yn mlaen eu mesurau heb niweidio gwrthddrychau a phethau drwg, ond medrent yn wastad wneyd hyny heb niweidio gwrthddrychau a phethau da. Os pregethent ddyled- swydd (fel y gwnaent yn aml, nes b'ai y gwrandawyr â'u cydwybodau yn eu cy- huddo), gwnaent hyny yn gyson â'r rhad 'as mwyaf. Os pregethent rad drugaredd yn achub peehadur, gwnaent hyny bob amser yn gyson â'r ddyledswydd lymaf. Os pregethent ar yr anerenrheidrwydd amr grefydd ddirgelaidd, a chywirdeb yn y dyn oddiraewn, gwnaent hyny yn gwbl gyson à chael crefydd oddifaes ac yn ngolwg dynion. Yr un fath fyddent wrth drin y mater o gâna mawl i Dduw. Ni chlywsld byth o'r apogtolion a'u cydweith- wyr yn dweyd, " Na waeth pa fath gânu Fo oddiallan ond ei cbael hi yn dda oddi- mewn ; pe byddai yr un penillion yn cael eu rhoi allan bob Sdboth, a'r un tônau yn cael eu cànu yn mhob cyfarfod nes eu. treulio allan, ond cael y galon yn dda, pob peth o'r goreu." Hefyd, ni chly wsid byth o honynt yn dywedyd, " Ond cael tônau newyddion, a phob dosbartb i gânu yn rheolaidd, ni waeth pa le byddo y gsrton." O, na, arwyddair pob plentyn i Dduwyn moreu Cristionogaeth oedd, ''Canaf á'r ysbryd, a chanaf à'r deall hefyd." I'r dyben o ddilyn eu siampl wrth ymdrin â'r mater yma ar byu o bryd, ymofynwn yn— I. Pa beth a ddywed yr ysgrytliyr o ber- thynas i gânu matol i J>duw f Er cael gweled hyn, ni a ofynwn yn— 1. Pa beth a ddywed y rhan hanesyddoi o'r ysgrythyr ? Meddyliaf fod y rban yma o'r ysgrythyr yn dangos mai y cânn cyntaf y clywsom ni son erioed am dano, yw y cânu y cyfeirir ato yn Job 38, 7, lle y dy- wedir " Pan gyd-ganodd ser y boreu, ac y gorfoleddodd holl feibion Duw." Y can- torion yn y cánu cyntaf y mae gyda ni hanes am dano ydoedd angelion Duw. Yr amser y canasant ydoedd, pan oedd y 42