Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhif. 152.] MAWRTH, 1848. [Cyf. XIII. ANERCHIAD YMADAWOL I EGLWYS SAEON. GAN Y PARCH. E. JONES, TREDEGAR. Ruth i, 8 :—" Gwneled yr Arglwydd drugaredd û chwi, fel y gwnaethoch chwi û'r meirw, ac û minnau." Mae y byd hwn yn llawn o ddirgelwch. Annichonadwy cael golwg glir a gwastad ar yrfa dyn drwyddo. Cauir ei ffyrdd â drain, a murir ei lwybrau â chèryg nadd, nes ydyw yn fynych yn gorfod cymeryd ei holl ymdaith " ar hyd ffordd ddisathr." Nid eiddo gwr ei ffordd, oblegid mynych yr ydym yn cael cynìluniau teg yn cael eu tỳnu, a ffyrdd esmwyth, gwastad, a dymunol yn cael eu lîinelli; ond buan yr ydym yn eu gweled yn llawn o bydewau, y cèryg geirwon wedi eu gorlanw, a holl wyrddlesni eu hymylau wedi diflanu. Nid oes genym yn fynych ond synu oblegid ein siomedigaeth, a wylo y deigryn chwerw uwchben ein gofid. Paham y mae amgylchiadau yn troi allan mor groes i'n dysgwyliadau sydd wybodaeth ry ryfedd i ni; uchel yw ac ni fedrwn oddiwrthi. Nid oes genym ond tewi, gan ddywedyd, " Tydi, Arglwydd, a wnaethost hyn," a dysgwyl yn ddystaw hyd ddydd dadgudd- iad y dirgelion. Pobl ryfeddol oedd yr Iuddewon. Arweiniwyd hwy dan ofal neillduol, ac yn llaw l)uw ei hun, am lawer cant o flynyddoedd. Gosododd elfenau natur yn fydd- inoedd cedyrn o'u plaid, ac amddiffynodd hwy â nerthoedd y nefoedd. Efe a'u cafodd mewn tir anial, ac mewn difl'eithwch gwag, erchyll, arweiniodd hwynt o am- gych a pharodd iddynt ddeall, a chadwodd hwynt fel canwyll ei lygad. Efe ydoedd tarian eu cynorthwy a chleddyf eu hardderchawgrwydd. Yr oe'dd eu gwlad hefyd yn rhyfeddol. Eiddo hi oedd hyfrydwch y ddaear, hyfrydwch cynyrch yr haul, a hyfrydwch addfed ffrwyth y lleuadau. Arni hi y defnynai bendithion y nefoedd fel yr ir-wlaw tyner. Hi ydoedd tegwch bro, a llawenydd bryn, a gogoniant yr holî ddaear. Ond nid oedd ei therfynau yn rhydd oddiwrth ofid, na'i phreswylwyr yn ddyogel rhag blinder. Cawn eglurhad o hyn yn y bennod gyntaf ynllyfr Ruth. Daeth newyn i'r wlad, ac aeth Elimelech, gwr o Bethlehem-juda, a'i deulu, i ym- daith i dir Moab. Dyma fel y mae dynion yn gyffredin : pan dywylla arnynt mewn un man, rhoddant gynyg ar le arall, er na wyddant yr hyn a'u herys jrno. Yn yr ystod byr o ddeng mlynedd, bu farw Elimelech; priododd ei ddau fab, a buant feirw. Ni bu eu heinioes ond megys cysgod yn cilio. Diflanodd eu nerth ; ebrwydd y darfu a hwy a ehedasant ymaith. Gwnaeth yr Arglwydd yn chwerw â'r weddw Naomi. Aeth i dir Moab yn gyflawn, ond dychwelodd yn wàg. Er fod Rhagluniaeth yn aml yn chwerw iawn yn ei throion, eto anfynych, os byth, y gellir nodi dyn, os bydd yn y mwynhad o'i reswm, wedi ei wneydyn hollol, drwyadl, anadferadwy druenus yn y fuchedd hon. Anfynych y gwelir pob defnyn o gysur wedi ei atal,—pob mymryn o drugaredd wedi ei golli,—pob gAvawr o obaith wedi darfod,—pob llais caredig wedi ei ddystewi,—y galon oll yn archolledig, heb un.dafn o falm yn cael ei dywallt iddi,—pob deigryn tosturiol wedi ei sychu,—y ddaear wedi myned yn gallestr dan draed, a'r nefoedd yn bres uwchben. Niâ felly y mae. Ỳn nghanol yr ystorom chwerwaf, gynddeiriocaf, pan yr ydym yn dueddol i feddwl fod y ddaear dan ein traed yn ymsiglo fel meddwyn; ac yn ym- symud fel bwth ; a phan yr ydym yn barod i grêdu fod y nefoedd a'i holl luoedd yn myned heibio gyda thwrf; eto os gallwn f'eddianu ein hunain am jfchydjgfyn- ydau, gallwn weled fod daioni a thrugaredd wedi ein cylchynu holl ddyddiau ein 11