Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhif. 181.] AWST, 1850. [Cyf. XV. BARNEDIGAETHAU TYMHOROL. GAN Y PARCH. 8IMON EVANS, PE.NYGROE3. Fod Duw, fod byd ar ol hwn, ac y bydd barn, ydynt wirioneddau i'r rhai y cyd- dystiolaetha lamp rheswm, ahaul datguddiad. Fod y fath annhrefn ar y ddaear, nes y gorfydd arnom gydnabod mai " fel y mae y da, felly y mae y drwg hefyd, a'r neb a dyngo fel y neb a ofno dyngu," sydd ffaith rhy amlwg i'w gwadu, a rhy bwysig i'w anghofio. O herwydd hyn y mae rhinwedd yn hol rhai o'i phrif gymhellion oddiwrth " daledigaeth y gwobrwy," a bai yn derbyn rhai o'i brif atal- feydd oddiwrth " y Uid a fydd." Meddwl am y byd a ddaw sydd yn llenwi myn- wes yr euog â'r dysgwyliadau mwyaf poenus, a chalon y cyfiawn â'r gobeithion mwyaf dymunol; er hyny, y mae yn y byd hwn wobrwyo a chosbi. Y mae rhinwedd yn cael ei wobrwyo fel y cyfryw, a bai yn cael ei gosbi fel y cyfryw. Heb gymeryd i'n cyfrif " y byd a ddaw," y mae gan dduwioldeb addewid o'r " bywyd sydd yr awrhon." " Wele, telir i'r cyfiawn ar y ddaear, pa faint mwy i'r drygionus a'r pechadur." Nis gallwm sylwi ar weithrediadau ad-daliadol Duw, heb weled ei fod i'w adnabod wrth y farn a wna. Y mae nefoedd ac uffern i'w cael y tu yma i'r bedd. "Diau fod ffrwyth i'r cyfiawn, diau fod Duw a farna ar y ddaear." Y mae barnedigaethau Duw wedi bod ar ein gwlad yn y flwyddyn ddiweddaf. Gwnaethpwyd ymdrechion gan athronwyr, îe, gan athronwyr Cristionogol i ddar- bwyllo y werin i gredu nad oes barnedigaethau tymhorol dan yr oruchwyliaeth,' hon. Cydnabyddir dinystr Sodoma a Gomorra, Babilon a Ninefe yn farnau; ond meddyliaf fod rhagluniaeth ad-daliadol mor amlwg yn ninystr Rhufain ag yr oedd yn ninystr Babilon. Wrth farnedigaethau tymhorol y deallaf, gweinyddiad o ddrwg naturiol mewn canlyniadi ddrwg moesol, gan Dduw yn y byd hwn. Y mae drwg naturiol yn y byd—poen, tlodi, cystudd, cleddyf, newyn, haint, angeu, &c. Mewn afrifed ffurfiau y mae trueni dyn yn fawr arno—efe a aned i flinder. A gadael y tu allan i'n sylw yr euogrwydd mynwesol a ofna y dyfodol, y mae golwg allanol y byd yn debyg i gíafdŷ ëang, neu garchar tywyll. Gofidiau a phoenau ydynt gyffredin i bawb, o'r brenin i'r cardotyn, o'r hen wr i'r baban. Y mae hefyd ddrwg moesol yn y byd. Y mae pechod dyn mor amlwg â'i drueni: y mae segurdod, gwastraff, gormes, creulondeb, anniweirdeb, lladrad, balchder, cybydd-dod, &c.f yn ffynu. Y mae yr holl fyd yn gorwedd mewn drygioni. Gormod gorchest fyddai enwi, chwaethach darlunio, yr holl ddrygau amryw ffurf a anharddant y gymdeithas ddynol. Ein gorchwyl yw ymofyn i'r cysylltiad sydd rhwng y drygau naturiol â'r drygau moesol. Er cynorthwyo y deall a'r cof, gwnawn rai sylwadau c)'ffredinol mewn ffordd o eglurhad. 1. Ni buasai drwg naturiol yn y byd oni buasai drwg moesol. Gwneud drwg a arweiniodd i oddef drwg. Yr oedd pechod yn y byd cyn i boen ddyfod iddo. Y pendraw i ddrwg naturiol yw marw; trwy bechod y daeth marwolaeth i'r byd. Y mae a ddywedant fod deddfau cyfansoddiad y corff dynol y fath ag i sicrhau marwolaeth pe arosasai dyn yn ei aefyllfa o ddiniweidrwydd. Pa un ai cywir ai anghywir eu hymresymiad, nid yw o fawr bwys genym, canys buasai Awdwr natur, y Duw, " yr hwn yn unig sydd ganddo anfarwoldeb," yn gofalu na chawsai marw- olaeth deyrnasu ar y rhai na phechasent—-byddai y byd yn llawn o ddedwyddwch naturiol. Y mae pechod a phoen yn anwahanol gysylltiedig â'u gilydd—geill fod 29