Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

QS Y DIWYGIWR. Rhif. 196.] "™fAcS\VEDDT~l85L [Cyf. XVíl ---------------------------------------------------ý£~ BU9DYG0LÍAETH Y GR0ES. GAN Y PAROH. WiLLIAM WILLIAMS, TREDEGAR. Y mae buddygoliaeth yn rhagdybied pleidiau gwrthwynebol, a bod ymdrech am oruchafiaeth rhwng y pleidiau hyny, ac yn y diwedd fod un blaid yn trechu ac yn enill y fuddygoliaeth ar y blaid arall. Yn hanes y byd dygir o'n blaen yn aínl goffadwriaeth am ymdrechiadau gan wahanol bíeidiau i gael goruchafiaeth ar bleidiau gwrthwynebol; yma y cawn hanes am chwyldroadau a dadymchweliad gorseddau, am ryfeloedd, gorchestion, a buddygoliaethau mawrion a phwysig; ond yn yr Ysgrythyrau Santaidd y cawn hanes am y fuddygoliaeth ryfeddaf a phwysicaf a gymerodd le erioed, sef buddygoliaeth Tywysog Heddwch ac eg- wyddorion cyfiawnder, ar deyrnas y tywyllwch a Thywysog y byd hwn. Dechreu- odí y rhyfel yn y nef pan gododd yr angylion na chadwasant eu dechreuad, wrth- ryfel j'n erbyn gorsedd eu Brenin, yt ftwh a gyrhaeddodd hyd waelodion uffern, ond ein daear ni ydyW prif faes yr ymdrech—ar y blaned hon yr ymladdwyd y frwydr ae- yr enillwyd y fuädygoliaeth. Dyma fuddygoliaeth ryfeddaf ar gyfrif y pleidiau oedd yn ymdrech, sef Mab Duw, yr hwn sydd ganddo ar ei wisg ac ar ei forddwyd enw gwedi ei ỳsgrifenu, Brenin Breninoeud ac Arglwydd Arglwyddi, a galluaedd uffern, seí' holl elynion Duw a dedwyddwch dyn. Rhyfeddaf hefyd wrth ystyried y dull yr ymladdwyd y frwydr ac yr enillwyd y fuddygoliaeth o du pechadur: ar un Uaw yr oedd yr ymosodiad mwyaf egniol, ac ar y llaw arall nid oedd ond ym- òstyngiad i ddyoddefgwarth, dirmyg, ac angeu. Yr oedd tywysogaethau ac aw- • durdodau y tywyllwch yn ymosod â'u holl egni ar Arglwydd y bywyd, ac yntau ei hunan yn yr ym'drech, heb neb o'r bobl gydag ef; oblegid clywir ef yn dywedyd, " Edrychais hefyd, ac nid oedd gynorthwywr ; rhyfeddais hefyd am nad oedd gyn- haliwr: yna fy mraich fy hun a'm hachubodd, a'm llidiawgrwydd a'm cynhaliodd.** "Ti, enaid, gwel i ben Calfaria, 1 — -.- Draw'r rhyfeddod mwya' erioed: Crëwr nefoedd fawr y_n roarw, . ' 'R ddraig yn tretagu dan ei droed." Onà er nad oedd ond ei hunan yn yr ymdrech, gorchfygodd y cedyrn ; ac er nad oedd gynorthwywr, sathrodd y gelyn drwy ddyoddef a marw. Y mae yr ymadrodd am y groes yn dra phwysig i bechadur euog, oblegid oddiyma y tardd ei gysur— dyma sylfaen cymod a heddwch â Duw; trwy fuddygoliáeth y groes y caifl' dder- byniad i bresenoldeb y Tad a mynwes Abraham, a phrofi o feudithion jc iach- awdwriaeth. Pwysig hefyd i gythreuliaid, am mai drwy fuddygoliaeth y groes y cawsant eu hollol ddadymchwelyd a'u gorchfygu, ac yr ysbeiliwyd hwynt o'u traws-feddiant. Dysgir ni i edrych ar farwolaeth Crist yn wahanol i farwolaeth pawb ereill. Bu llawer o son am ei farwolaeth, a'r fuddygohaeth a enillodd wrth íarw, gesau cyn i hyny gymeryd lle. Cysgodwyd a phortreiadwyd ei fuddygoliaeth, a rhagddywedwyd am dani filoedd o flynyddoedd cyn i'r frwydr gael ei hymladd, ac i Iesu eniU goruchafiaeth ar alluoedd y tywyllwch. Gwnaeth îlawer o ddynion son mawçàm danynt eu hunain yn eu bywyd, eithr nid oedd dim son am eu marwolaetb. cyn i hyny gymeryd lle. Bu y byd yn caèl «i gynhyrfu gan ryfeloedd a buddygoliaethau Alexander, Ceesar, a Napoleon. Yr oedd eu henwau yn peri i orseddau grynu a llanwent genedloedd cryfion a dychryn ac arswyd, dadymchsrelasant deyrnasocdd, a llanwasant feusydd â gwaed dynol; an- rhaithiasajBt wledytld, a gwnaethant ddinasoedd yn änghyfanedd, ac heb