Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhif. 201.] EBRILL, 1852. [Cyf. XVII. EGLWYS LWYDDIANLS. GAN Y PARCH D. BATEMAN, RHOSYCAERAU. " A'r Arglwydd a ychwanegodd beunydd aryr eglwys y rhai fyddent gadwedig."—Act. 2, 47. Caivn yma hanes yr eglwys Gristionogol yn ei sefydliad cyntaf, yn natur ei chyf- ansoddiad, yn nodweddiad ei haelodau, yn moddion ei dygiad yn mlaen, ac yn y llwyddiant mawr ddilynodd ei llafur. Mae yr hanes hwn o fawr werth fel patrwn ac fel calondid i'r eglwys hyd ddiwedd amser. Rhydd y bennod hon hanes y Yn gyntaf, Ar gymeriad crcfyddol eghcys ychicanegiadwy, ncu y fath raid i eghcys fod er cael gwir ychicanegiadati. Cymeriad eglwys yw cydgyfarfyddiad cymeriadau yr holl aelodau. Y mae gan bob aelod ran yn nghyfansoddiad cymeriad yr eglwys ; rhaid, gan hyny, fod cymer- iadau personol yr aelodau yn dda, er i gymeriad yr eglwys fod felly. Er cael tref luniaidd a glân, rhaid i bob heol a phob tŷ yn y dref fod felly ; byddai un heol fudr, neu un tỳ afiun a brwnt, yn eithriad yn nghymeriad glân a lluniaidd y dref. Felly mewn eglwys,—bydd un aelod o gymeriad drwg yn eithriad a gwanhad i gymeriad da yr holl eglwys. Dengys hyn y dirfawr bwys i bob aelod ofalu fod ei gymeriad ef yn dda, fel na byddo cymeriad yr eglwys yn cael ei ddrygu drwy y rhan a berthyn. iddo ef yn ei chyfansoddiad. Rhaid i eglwys ychwanegiadwy fod o gymeriad da, yn debyg i eglwys Jerusalem ; ychwanegodd yr Arglwydd at yr eglwys hòno, a gwna felly at ei bath eto. Mae yn angenrheidiol, gan hyny, i sylwi ar gŷmeriad erefyddol yr eglwys yn Jerusalem ; 'a gwelir yn amlwg ynddo yr elf'enau caníynol •— 1. Yr oedd cghrys Jerusalem yn Ihcyr argyhoeddedig o ddwyfoldeb a phwysigrwydd Oristionogaeth.—Nid dan eu dyrnau yr oeddynt; gwyddent beth oeddynt yn ei gylch. Yr oeddyntyn ddeallus mewn crefydd, yn hyddysg yn Ysgrythyrau yr Ilen Des- tament, a'u cyflawniad manwl ac eglur yn Nghrist. Y fath ddylai yr eglwys fod eto ; dynion cwbl argyhoeddedig o werth a gwirionedd crefydd, yn meddu mesur o wybodaeth o grefydd, a chanddynt reswm dros eu crefydd, ydynt i fod ei haelodau ; dynion ag y byddo goleuni y gwirionedd wedi eu darbwyllo, nerth y gwirioiiedd wedi eu concro, a gwerth y gwirionedd wcdi eu henill. Mae lle mawr i ofni mai tra gwahanol i hyn yw lluaws o aelodau eglwysi yr oes hon—eu bod gyda chrefydd o ddygwyddiad er dilyn arferiad, neu er cydsynio â deniadau rhywrai yn fwy na dim arall, tra y maent yn ddyeithriaid i grefydd yn ei grym a'i hysbrydolrwydd. 2. Yr oedd didwylledd yn un o elfcnau amhjcaf cymeriad eghcys Jerusalem.—Yr ocdd- ynt yr hyn a gymerent arnynt fod ; yr oedd eu calon yn uniawn gerbron Duw. Credent yr hyn a broffesent, a phroffesent yr hyn a gredent yn.gyhoeddus a digy- wilydd. Nid oes dim yn ffieiddiach yn ngolwg yr Arglwydd na rhith a thwyll ; ihithio teimladau ac ymddangosiadau crefyddol! Ac nid oes dim yn fwy dirmygus yn ngolwg dynion; gwelant drwy ffug-anonestrwydd y galon. Nis gall egíwys dwyllodrus fod yn eglwys wir lwyddianus. 3. Yr oedd eghcys Jerusalem yn gweithredu ffydd gref ar Grist.—\'r oeddynt yn un ag ef ; edrychent arno fel eu hunig Arglwydd a'u Pen, a gweithredent mewn ufudd- dod iddo ; edrychent arno fel eu hunig Geidwad, ac ymddiriedent ynddo. Mae pob gwir aelod o'r eglwys mewn undeb â Christ. Efe yn Grist, yntau yn Gristion ; Efe yn wreiddyn, yntau yn gangen ; Efe yn Ben, yntau yn aelod. Nid yw bod mewn undeb â'r eglwys, heb fod mewn undeb â Christ, o ddim gwerth. Cynrychiolwr Crist yn y byd yw y Cristion—un yn meddu ysbryd Crist, ac achos Crist yn achos iddo yntau. Rhaid i'r eglwys fod yn ymddibynol ar Grist, yn ddarostyngedig i Grist, yn un â Christ, er bod yn ychwanegiadwy ; ar wahan oddiwrtho ef, nis gall Iwyddo. 14