Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhif. 210.] IONAWÌl, 1853. CCyf. XVIII. EGLWYS CRIST. Traddodwyd yr hyn a ganlyn yn Llanymddyfri ar y 30ain o Fehefin ; ac o herwydd y nodiadau a wnawd ar y Ddarlith yn yr Haul am fagad o fisoedd ar ol hyny, tuedd- wyd ni i'w hargraö'u/e/ y dywedasom hi, modd y gallo y cyhoedd farnu ein syniadau, ein hysbryd, a'n chwaeth. D. Rees, Llanelli. Yr ydwyf wedi fy ngalw yma heddyw gan fy mrawd ieuanc, a'r eglwys sydd i fod dan ei ofel, i draethu fy marn yn rhydd a llwyr am Eglwys Crist yn ei chyfan- soddiad a'i hysbrjd; ac yr wyf yn bwriadu gwneud hyny heb ymddiheuraw am ddim a ddywedaf, er y dichon y byddaf yn gwahaniaethu oddiwrth lawer sydd yma yn nghylch y pwnc dan sylw. Nid wyf yn meddwl cynyg un math o esgus- awd am ymneillduo o Eglwys Loegr, nac am amrywio yn fy ngolygiadau oddi- wrth frodyr Ymneillduaidd; oblegid y mae genyf hawl i farnu, a thraethu fy marn bob amser, ac y mae yn gweddu i mi ei thraethu ar amgylchiad, pan y dysgwylir i mi gan bawb i wneud hyny. Yr ydwyf yn lled sicr pe byddai yr hy- barch, y dysgedig, a'r llafurus Dr. Thirlwall, Esgob Tyddewi, yn un o fy ngwran- dawyr, na ddysgwyliai i mi attal na chelu dim o'm golygiadau ar achlysur fel hwn, o dosturi at ei deimladau ef, mwy nag y dysgwyliwn I iddo ef ar amgylchiad cyffelyb. Ystyriai ef fy mod yn ddyn fel yntau, ac hawl genyf i farnu drosof fy hun fel yntau, ac hefyd i draethu fy marn fel yntau; ac nid oes un Eglwyswr goleuedig a dramgwydda wrthyf am fod yn onest heddyw mewn ysbryd cariad ; ac ni ddigia fy mrodyr Wesleyaidd a Methodistaidd, er, fe allai, y tarawn yn galed, ac weithiau, fe ddichon, yn drwsgl arnynt yma a thraw. Nid oes digio i fod ar achlysur fel hwn. Mae yn wir mai peth gwrthun, anfrawdol, ac anmhwrpasol ydyw gwahodd dynion yn nghyd i gyfarfod mawr cyffredin, ac yna eu sarhau a'ü taro ar eu trwynau ar y ddeau a'r aswy drwy haeru ein dirdybiau ein hunain; ond heddyw galwyd chwi yma, a daethoch chwithau, i wrando yr hyn sy genym i ddweyd o barthed i'r pynciau sydd i fod dan sylw. Yr wyf yn teimlo yn selog dros fy ngolygiadau, ac yn mawr awyddu enill ereill i'r un farn a fi am danynt. Arch-esgob, dywedaf o'm calon,Duw yn rhwydd wrtho,tra ycymeraf filwybrlawer byrach. Os y Wesleyad, wedi yr oll a ddywedaf, a deimla yn fwy diogel a chyf- leus i fyned heibio i'r gynadledd, a'r Trefnydd fyned trwy y Cyfarfod Misol a'r Sasiwn, dywedaf, Byddwch wych, frodyr, wrthynt hwythau; ac os fy anwyl frodyr y Bedyddwyr yma a fynant fyned trwy yr afon adref i wlad yr hedd, ac os na chy- merant eu perswadio genyf fi i ddyfod ar hyd y tir sych, yr hon ffordd, dybiaf fi, sy ddiogelach ac agosach, nid oes genyf ond dymuno yn dda iddynt, a chyrneryà fy^ ffordd ar hyd y lan, a ílusern y nefoedd yn fy Uaw, heb fyned heibio i Senedd, ns Brenines, nac Esgob, na Phab, na chynadledd, na Sasiwn, gan obeithio y cawn gwrdd oddeutu y bwrdd i adrodd ein helyntion, ein camsyniadau, a'n diangfa ýr y pen draw. A thra ar y ffordd, byddaf yn foddlon iawn i roddi rheswm i'r neb i safo ar yr un tir a finau, ac a ofy'no am y gobaith sydd ynof. Nid oes dim y fwy gweddaidd nag ateb boneddigaidd i ofyniad gwaraidd, ac at hyn yr ymgj j nygaf. Y mae geiriau Pedr yn gosodger fy mron sylfaen briodol i adeiiadu arnyn^ 1 Pedr 2, 4, 5, " At yrhtcn yr ydych yn dy/od, megys atfaen byiciol, a wrthodwyl gan ddynion, eithr etho/edig gan Dduw, a gwerthfawr. A chwithau, megy.* meini bywiol, ydych wedi eich adeiladu yn dŷ ysbrydol, yn offeiriadaeth santauM, ioffrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw drwy Iesu Grist."