Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Riiif. 217.] AWST, 1853. "~[Cyf. XVIII. MADAGASCAR. GAN Y PAROH. JOHN DAVIES, LLANELLI, BRYCHEINIOG. Madagascar sydd ynys fawr ac ëang yn nghyfan-fôr llydan India. Afreidiol hysbysu neb sydcl yn gwybod ychydig am Ddaearyddiaeth, mai nid un dernyn mawr cysylltedig â'u gilydd ydyw y tir a gyfansodda arwynebedd y ddaear. Yn yr haner Dwyreiniol o'r byd mae Ewrop, Asia, ac Aífrica. Ewrop ac Asia sy mewn cysylltiad hollol â'u gilydd, heb ddim ond y mynyddau Ouralaidd yn benaf yn eu gwahanu. Affrica a unir àg Asia gan ddernyn cul o dir a elwir Isthmus of Suez. Ỳn yr haner Gorllewinol o'r byd mae Cyfandir hir America—tiroedd mawrion y De a'r Gogledd yn cael eu huno à'u gilydd gan Isthmus of Darien. Y mae Cyfandiroedd y rhan Ddwyreiniol o'r ddaear yn cacl eu gwahanu yn hollol yn mhob manoddiwrthgyfandiroedd y Gorllcwin gan gyfanfôroedd llydain, oddieithr Gogledd Ddwyrain Asia, a Gogledd Orllewin Amcrica, y rhai a wahenir gan JSer- hing Straits, a dywedir nad ydyw y pellder rhyngddynt ond tua 60 milldir. Heb- law y tiroedd mfeithion hyn, mae yn y gwahanol fôioedd diroedd, mwy neu lai, wedi eu gwasgar hwnt ac yma fel cèrig milldiroedd ar hyd wyneb y weilgi mawr, y rhai a elwir yn yìiysocdd, o herwydd hod môr yn eu hamgylchu. Yn Môr y Werydd ni gawn Prydain Fawr a'r Iwerddon—gwìad o ryddid i ddû a gwyn—cryd y celfyddydau a'r gwyddonau—noddfa ffüedigion Ewrop—llety anwyl crefydd, a thrysordŷ arianol y byd. _ Odditanom ni i'r De Orllewin y gorwedda Madeira, ynysoedd pwysig ereill. Mae y cyfanfor tawelog bron bod mor dryfrithedig gan fan ynysoedd ag ydyw yr wybren gan sôr. Y pwysicaf ydyw y Sandwich, New Caledonia, New Zealand, Friendly Islands, Tahiti, ac Eromanga, lle a h)'nodwyd gan lafur caled, llwyddiant mawr, a meithyrdod gofidus, ond anrhydeddus, yr anfarwol John Williams, un o'r cenadwyr gorau a sangodd ddaear oddiar dyddiau yr Apostol Paul. Yn nghyfanfôr yí India ceir Ceylon ffrwythlawn, am yrhon y cânodd yr enẁog Heber:— à " What though the spicy breezes blow soft on Ceylon's isle, Though every prospect pleases, and only man is vile— In vain with lavished kindness the gifts of God are strown, The heathen in its blindness bows down to wood and stone." Ganoedd lawer o filldiroedd i'r Deau ni gawn Sychelles, Catega Comora, Mauritius, Bourbon, a Madagascar, yr hon sydd tua 300 o filldiroedd i'r -Dwyrain oddiwrth y dernyn nesafo Affrica; gorwedd yn unionsyth rhwng Deau Affrica a Chyfandir auraidd Awstralia. Pan bydd ymfudwyr o Gymru yn myned i Aws- tralia gyda agerlongau, ar ol iddynt basio Penrhyn Gobaith Da, bydd Madagas- car ar y llaw aswy iddynt tuag 800 o filldiroedd i fyny i'r Gogledd. Ymaetua thri chwarter o honi yn ymestyn o fewn y trofanau; ond gan fod y cŵr uchaf o honi tua 500 milldir oddiwrth y cyhudedd, a bod y môr yn ei chylchynu, nid yw yn annymunol dwym, er ei bod o fewn y cylch poeth. Y mae yn ynys ëang iawn, tua 900 milldir o hyd, yr hyn sydd fwy na hyd eip teyrnas (360) ni ddwy- waith a haner, ei lled sydd agos yn ogymaint a Phrydain. Mae ei hamgylchedd 30