Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWJR. Rhif. 235.) CHWEFROR, 1855. [Cyr. XX. Y WEINIDOGAETH. GAN Y PARCH- W. DAVIES, ABERGWAUN. Y Traethawd hwn a gyfansoddwyd ar ddymuniad y Cwrdd Chwarter, a ddarllen- wyd, ac a gymeradwywyd gan weinidogion yr Undeb, yn Mhenybont, swydd Benfro, Hydref 24ain, 1854 ; ac yn ol eu cais a'u dymuniad, danfonir ef i'r argraff-wasg. NlD oes un gwirionedd yn fwy amlwg na bodolaethDuw. Mae ei dragwyddol allu a'i Dduwdod idd eu canfod yn eglur yn y pethau a welir. Mae y mawredd, am- rywiaeth, a'r perffaith gysondeb sydd i'w gweled mewn creadigaeth, Ithagluniaeth, a Liywodraeth dros bawb a phob peth, yn eglur ddangos ei anfeidrol allu, ei anfeidrol ddoethineb, a'i anfeidrol ddaioni, nes yw pawb o ddeiliaid ei lywodraeth foesol yn hollol ddiesgus, a'u cydwybodau yn eu cyhuddo, neu yn eu hesgusodi. Ond o holl weithredoedd Jehoia, y ffordd a drefnodd efe o'i benarglwyddiaethol ras i achub byd colledig, a'i adferu yn ol i'w heddwch, a'i ddelw, ac i fwynhad o'i Grëwr, yw y mwyaf a rhyfeddaf o'r cwbl. Dyma lle mae golud ei ddaioni—mawr- edd ei gariad—cyfoeth ei drugaredd—amrywiaeth ei ddoethineb, a rhagorol fawr- cüd ei nerth, yn cael eu dadleni, nes yw holl angelion gogoniant yn synu, ac megys â gyddfau estynedig yn edrych i mewn i'r anfeidrol ryfeddodau. Maeydreíh ryfeddol hon wedi cael ei dadguddio a'i hamlygu yn Ngair y gwirionedd, ac nid yn un lle arall. Gwelodd yr Arglwydd yn dda i ymddiried Gweinidogaeth y cymod mewn llestri pridd, fel y byddai godidawgrwydd y galiu o Dduw, ac nid o ddynion, a thrwy ffolineb pregethu i gadw y rhai sy'n credu. Methodd pob gwy- bodaeth arall i adferu dynoliaeth yn oi i'w dedwyddwch cyníefìg; ond yr efengyl yn unig sydd yn allu Duw er iechydwriaeth i bob un a'r y sydd yn credu, i'r Iuddew yn gyntai', a hefyd i'r Groegwr. Y mae Gweinidogaeth yr efcngyl, drwy offerynau mor wael, wedi cynyrchu effeithiau mor fawr a daionus, yn ngwyneb holl wrthwynebiadau, dyfeisiau, a gallu dynion a chytlireuliaid yn ei herbyn, yn brawf diymwad o'i dwyfoldeb, nes peri syndod drwy yr holl oesau ; a phe buasai yr efengyl a'i Gweinidogaeth wedi cael ei gadael heb ei diosg o'i harddwch morwynol, a'i phurdeb apostolaidd, hi a fuasai er ys talm yn frenines y taleithiau, ac yn goron gogoniant yr holl ddaear. Ond dros oesau maith, cafocld ei rhwymo meun cysylltiad â liywodraethau gwladoi, fe'i gorlwythwyd à chredöau dynol, ac fe'i anffurfiwyd â dynol draddodiadau, i'el y gallesid gofyn beliach, " Ai hon yw Naomi ?" ai hon yw y Weinidogaeth brydferth a roddwyd gan Ben mawr yr eglwys? Ond er yr holl gamwri ag a gaíbdd y mae eto yn fyw, ac yn gweithio ei ffordd yn mlaen gan ymysgwyd o'r llwch, ac yn ym- ddatod oddiwrth rwymau ei gwddf. Y mae Mredi gwneud pethau mawr, a hi a wna eto bethau mwy; canys mwy yw y rhai sydd o'i thu na'r rhai sydd yn ei herbyn. Bellach ni daflwn olwg gyferbyniol ar y Weinidogaeth, yn yr hyn ydoedd yn yr haner canrif a'r triugain mlynedd a aethant heibio, â'r hyn ydyw yn y dyddiau presenol drwy Gymru, ac yn neiilduol yn sir Benfro, lle y gwelwn yn gyntaf ei bod mewn rhai pethau yn cyduno ac yn cyd-daro; ac yn aii, ei bod mewn pethau ereill yn gwahaniaethu cryn lawer; a gadawn i'n darllenwyr dynu y casgliad a'r cynwysiad; gan obeithio y bydd y sylwadau canlynol dan ddwyfol "endith o wir les i'r gweinidogion a'r eglwysi, yw taer ddymuniad yr ysgrifenydd, ynghyd à'r brod- yr yn yr Undeb. Y mae y Weinidogaeth yn hollol gyduno yn ei sylfaen. Sylfaen y Weinidog-