Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhif. 264.] GORPHENAF, 1857. [Cyf. XXII. CRISTIONOGAETH. GAN Y PARCH- JOHN THOMAS, GLYNNEDD. Ckistio>togaeth yw y gwiredd mwyaf gogoneddus a ymddangosodd yn y byd hwn erioed. Nid oes yr un gyfundraeth grefyddol araíl a ddeil ei chystadlu am fynyd â'r drefn ardderchog hon. Mae Cristionogaeth yn dwyn arni arnodion eglur o nefol wreiddioldeb, a phob tu-dalen o'r efengyl fel pe byddai wedi ei hysgrifenu gan fys Duw. Ei phrisfawr drysorau ydynt fel gemau tanbeidiol yn adlewyrchu dwyfoldeb ar y meddwl a'u mhyfyrio, nes mae ei gogoniant yn llenwi yr enaid â hyfrydwch swynol, fel yr anghofia y byd a'i drafferthion trwy rîn y gwleddoedd danteithiol ac ysbrydol a fwynhâ. Byd o oleuni yw y gyfundrefn hon t trwy rym ei dysgleirdeb aneilydd mae dirgelion y byd a ddaw gwedi eu hegluro a'u dadblygu o fewn cyloh amserol y byd hwn. Cariad yw yr elfen oçoneddusaf a hanfoda yn Ymherodraeth Iôr, ac y mae mwy o gariad yn ganfyddadwy yn y drefn hon, nag sydd mewn un gyfundraeth arall dan haul. Duw cariad yw ei Hawdwr—egwy- ddorion cariad yw ei helfenau cyfansoddol—rhwymau cariad yw ei gorchymynion —myneg-fysedd cariad yw ei chyfarwyddiadau, a chariad yw sylwedd hylifol y sugndyniad sydd yn dylanwadu ar serchiadau y gwir Gristionogion, er eu cadw o fewn cylch priodol at Grist Haul y cyêawndcr. Ac fel mae y gwahanol blanedau dan ddylanwad atdyniad yr haul, ac hefyd dan effaith sugn-dyniad eu gilydd, yn cyd-olwyno yn rheolaidd mewn un gysawd ardderchog; felly mae y gyfundraeth Gristaidd yn y byd moesol gwedi ei hamcanu i uno dynoliaeth ynghyd, a'u dwyn eilwaith i heddwch â Duw trwy rymus ddylanwad Croes Crist. Cynwysa ei gwersi goruchel addysgiadau dyddorol ac ymarferol—addewidion mawr iawn agwerthfawr —athrawiaethau santaidd a thra-gogoneddus—gorchymynion rhesymol, hynaws, a charedigol—anogaethau dwysion ac argyhoeddiadol—cyfarwyddiadau eglur a dihoced—bygythion effeithiol adwfn-dreiddiol— i'e, gall pobmeddwl craffus ganfod yn rhwydd fod y cwbl o'i chynwysiad gwedi ei addurno â'r fath arucheleddDwyfoì, fel na phetrusa ddywedyd mai " mawr amryw ddoethineb Duw," yw y drefn ogon- eddus hon. Dysgir ni gan Gristionogaeth pa fodd i iawn ymddwyn tuag at ein Perydd—tuag at ein cyd-ddynion, a thuag atom ein hunain. Dengys i ni hefyd pa fodd i gael maddeuant pechodau—i fwynhau gwenau Duw—i fedru llawenhau mewn gorthrymderau—cael goruchafiaeth ar angau, a dedwyddwch bythol mewn byd dyfodol. Cyfenwir y gyfundrefn hon yn "Deyrnas yr Arglwyddlesu Grist," am maj efe a'i sylfaenodd—a ddadblygodd ei gwireddau Dwyfol gyntaf i'r byd—a sefydlodd ei swyddogion a'i hordeiniadau—a chydnabyddir ef fel ei Thywysog eneiniedig gan ei holl ddeiliaid ffyddlon yn mhob man. Crist yw ei Breriin, ei Phroffwyd, a'i Harch-offeiriad—Efe yw trysor-gell anfeidrol ei bendithion; îe, mae efe yn bob peth, ac yn mhob peth fel enaid a bywyd y drefn fawr. Osedrychwn areihaddew- idion, y maent oll yn cael eu sylweddoli yn Nghrist—ar ansawdd ei hathrawiaethau, maent oll yn canol-bwyntio yn Iawn Crist—ar yr anogaethau, maent oll yn cael eu grymj'su gan gariad Crist—ar y cyfarwyddiadau, maent oll gwedi eu rhoddi yn ngoleuni a than dywysiad Ysbryd Crist—ac hefyd ar ansawdd ei bygythion, maent oll i gael eu gwireddu yn herwydd diystyru a gwrthod derbyn Crist; felly, eithaf priodol oedd ei chyfenwi yn Gristionogaetli, neu grefydd Crist.