Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhif. 265.] AWST, 1857. [Cyf. XXII. DARLITH ARWEINIOL Ar agoriad Athrofa Penybont-ar-Ogwy. QAN Y PARCH. RHYS GWESYN JONES. Anwyl Gyfeillion,—Yr ydych wedi dangos fod genych ymddiried jnwjf drwy roddi eich hunain dan fy ngofal. Meddyliwyf mai y dull gorau er i ni fyned yn - mlaen yn fwy hwylus fyddai i mi roddi i chwi ar y dechreu fy amcan wrth gychwyn yr Athrofa, a'r cynllun a fwriadwyf gymeryd er eich addysgu chwi ac ereill a rodd- ant eu hunain i'm gofal yn ol Uaw. Dechreuaf gyda sylwi fy fod yn ei ystyried o bwys neillduol i drin pob un yn y fath fodd ag i'w barotoi gyferbyn â'r sefylll'a neu'r cylch fwriada lenwi. Nid iawn yw rhoddi un sydd yn bwriadu myned yn siopwr i ddysgu yr un peth a'r hwn a fwriada fyned yn íferyllydd ; ac ni thâl i'r hwn a fwriada fyned yn feddyg gydlafurio â'r cyfreithiwr; neu yr hwn sydd yn meddwl bod yn dduwinydd ymgystadlu â'r hwn sydd ar fedr myned yn forwr. Mae rhyw bethau a dueddant yn neillduol i barotoi pob un i'w gylch ei hun, na byddai ond coll amser i rai a fwriadant lenwi cylchoedd ereill ymyraeth llawer â hwy. Os bydd dyn ieuanc yn ddigon galluog i ddysgu pob peth gyda'r hyn sydd anhebgorol iddo ddysgu, eithaf da; byddaf barod i ddywedyd wrtho, rhwydd hynt, a rhoddi pob cymhorth a allwyf. Ar yr un pryd, y mae un elfen yn mha un y cyduna dysgeid- iaeth pawb, sef deffroad y meddwl. Pe ceid allan beth yw y pwnc mwyaf tebyg o ddysgu dynion ieuainc i feddwl, cyduna pawb y dylid eu gwneud yn gyfarwydd â hwnw beth bynag; oblegid nid yw ond ofer cynyg dys°reidiaeth i ddyn hyd nes y Uwyddir i'w gael i feddwl drosto ei hun. Gwir y gellir llwyddo i gael gan blentyn neu ddyni ddysgu llawerheb ym'arfer fawrar ei feddwl; ondbeth fydd dysgeidiaeth felly o werth ? nis gallai dyn ei defnyddio, ac felly byddai yr un peth iddo fod yn annysgedig. Ceir enghraifft nodedig o hyn yn hanes Dic Aberdaron. Mae dadl fawr yn y byd beth yw y pwnc, neu y wyddor debycaf o ddeffroi meddyliau dynion yn gyffredin, yr hon y gellir ei gosod gerbron dynion o bob sefyllfa er eu parotoi i ddysgu y pethau hyny ydynt angenrheidiol iddynt eu dysgu er llenwi eu cylchoedd bwriadoí. Mỳn rhairrai rhif a mesur ydynt y pethau gorau. Ohd ymddengys i mi nad yw hyn yn gywir wrth ystyried fod eisiau nid yn unig disgyblu y meddwl, fel ag i beri iddo aros gyda'i waith, ond ei ddeffroi hefyd a'i ddysgu i gael blas ar ei waith. Dywedir yn gytfredin fodRhifyddeg yn addas iawn i ddiwyllio y meddwl; ond nid oes neb yn cynyg dweyd ei bod yn dda i dynu y meddwl allan—caethiwo y meddwl ac nid ei ëangu yw ei thuedd. Sylwai yr anfarwol Sir W. Hamilton fod amryw o'r rhifyddegwyr gorau yn ddiffygiol braidd yn mhob gwybodaeth arall f Dylid ymdrechu ar y dechreu i greu awydd mewn dyn ieuanc am wybodaeth trwy ei osod i ddysgu rhŷw beth fyddai yn debyg o fod yn flasus iddo; Beth ynte yw y debycaf i wneud hyn ? Barnwyf mai ei feddwl ei hun wedi ei droi yn wrthrych myfyrdod, yw y peth gorau yn y byd i wneud dyn ieuanc yn feddyliwr. Nid wyf yn golygu y dylid cynyg at wneud pawb jn athronwyr perffaith, ond fy amcan fyddai gwneud dyn yn gyfarwydd â chyfansoddiad ei feddwl yn gystal a'i ddull o weithredu. Nid yw y wyddor hon yn ei natur uwchlaw cyrhaedd undyn wedi tyfu i oedran a synwyr; oblegid gellir ei gwneud jn adnabyddus trwy enghreifftiau hollol syml, a dangosi ddyn ei fod yn athronyddu bob dydd. Gellir dechreu gyda'r pum synwyr ydynt yn ei feddiant, ac ar waith yn barhaus. Gwyddoch eich bod yn oO