Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhif. 268.3 RHAGFYR, 1857. [Cyf. XXII. PREGETHÜ ESBONIADOL. GAN Y DIWEDDAR BARCH. E. DAVIES. ABERHONDDU. (PARHAD O RIFYN TACHWEDD, TU-DAL. 330.) Darlithiau Esboniadol ar yr Epistol at y Galatiaid, gan Dr. John Browií, Athrano Duwinyddìaeth Esboniadol yn Athrofa yr Henaduriaid Ymneillduol yn yr Ysgotland, 1853. Mae'ii eglur fod cysylltiad agos rhwng yr Epistol at y Rhufeiniaid a'r un at y Galatiaid, a bod y naiil yn gynorthwyol i ddeall y llall. Dylent gael eu darllen a'u deall yn gysyíltiedig â'u gilydd. Y maent wedi cael eu hystyried bob amser gyda'r rhanau pwysicaf o air Duw. Y maent yn cynwys mêr yr efengyl; ac y mae mor angenrheidiol i wybod eu cynwysiad yn y dyddiau hyn ag erioed. Mae'r byd crefyddol yn nodedig am ysbryd hunan-gyfiawn. Ac nid yw hyn yn rhyfedd. Y mae hunan-gyfìawnder, fe allai, o bob peth yn y byd, y peth mwyaf naturiol i ddyn. Mae hen dduwinydd, mewn dull sathredig, ond yn darawiadol anghyff- redin, yn cymharu hunan-gyfìawnder dyn i'w grys! y peth cyntaf y mae yn ei wisgo, a'r peth diweddaf y mae yn ei ddiosg. Megys y mae Dr. Brown yn dyw- edyd, y mae o bwys mawr i ni gadw hyn mewn golwg, a pheidio lletya meddyliau rhy gauedig am y natur ddynol. " Y mae athrawiaeth yr apostol yn yr epistol hwn (medd efe) mor bwysig i ni ei gwybod, ac yn dal perthynas mor agos â'n daioni a'n dyledswyddau ni ag ydoedd ag eiddo'r Galatiaid yn yr oes apostolaidd. Mae'n wir nad oes dim perygl i ni obeithio am ran yn ewyllys da Duw, ar sail ein bod yn mwynhau breintiau, neu yn cyfìawni gorchymynion yr hen oruchwyliaeth. Ond yr ydym oll mewn dirfawr berygl o adeiladu ein gobeithion am ddedwyddwch dyfodoí ar sail ag sydd yn gwbl mor anwadal ac ansicr. Onid oes miloedd a myrddiynau yn ein plith yn tybied eu hunain yn Gristionogion yn unig am eu bod wedi eu geni mewn gwlad Gristionogol, a'u bod wedi eu bedyddio yn enw yr Iesu? Onid oes lluoedd dirif y rhai ydynt yn gobeitbio am y nefoedd, nid ar sail aberth y Ceidwad, ond ar sail eu bod yn ddiddrwg, neu yn well nag ereill; neu am eu bod yn edifarhau ac yn diwygio; neu am eu bod yn elusengar, ac yn dywedyd gweddiau ? Onid oes lluoedd dirifedi heblaw hyny, y rhai, er y dywedant eu bod yn pwyso ar yr hyn a wnaeth ac a ddyoddefodd y Gwaredwr, ydynt eto yn edrydi ar ei haeddiant yn unig fel math o" gyflawnder sydd yn gwneuthur i fyny ddiffygion eu cyflawniadau eu hunain, gan bwyso ychydig yn y modd hyn, ar y Gwaredwr, ond yn benaf arnynt eu hunain ? Onid y gwirionedd yw, fod y rhan fwyaf o la-wer o'r rhai a elwir ar enw yr Iesu yn amlwg heb wybod a'c heb gredu y peth cyntaf oil syda i'w gredu yn ei grefydd, sef mai " dawn, neu rodd Duw yw bywyd tragwyddol;" a bod dynion yn cael " eu cyfiawnhau yn rhad, trwy'r brynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu ?" Onid yw y rhif luosocaf "o lawer hyd yn nod o'r rhai a ymddan- gosant yn grefyddol, yn myned oddiamgylch gan osod i íyny eu cyfiawnder eu hunain, a gwrthod yn gyndyn ymostwng i drefn Duw o gyfiawnhau pechadur?. Fe wna dynion un peth a phob peth yn y byd, ond credu tystiolaeth Düw am ei Fab—pẅyso ar ei waith gorphenol, a derbyn yn ostyngedig ac yn ddiolchgar; iachawdwriaeth râd a chyflawn"-—tu-dal. 165.