Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

352 Y DIWYGIAD. Dywed Mr. J., bod Brynsion hefyd yn cychwyn yn hwylus. Y mae ef yn new- ydd ddechreu ei weinidogaeth yn Cana a Gibeon yn awr. Ofnai ei fod wedi sy- roud o'r gwres i'r oerfel; ond nid felly, y mae tyrfa iuosng yn Cana, ac felly yn Gibeon, yn ynuifyn am le yn y tŷ, ac y mae eto sŵn. tyrfa yn dyfod. Y rcae'r Arglwydd yn gwneuthur i ni yn Penbre. a Llanelli, a Llangenech, bethau rnvfedd, am hyny yr ydym yn llawen. Y mae ysbryd gweddi ddwys wedi disgyn ar y cymydcgaethau, a Duw yn achub. Cydweddia y Methodistiaid, a'r "Wesleyaid, a'r Annibynwyr am y tywalltiad mawr. Yr ydym eisoes wedi cael rhai defnynau breision. Mae yma ganoedd wedi troi at yr Arglwydd ; ac y mae Dirwest yn uwch o lawer nag y gwelsom hi erioed. Mae yr addoldai mawrion wedi myned eisoes yn rhy fych- ain, a'r tafarnwyr yn gweled eu cegin- au yn weigion, ac yr ydym yn hyderu y bydd llawer o honynt mor gall a thynu y signs i lawr mewn pryd. Da genym ddeall fod deffroad mawr yn Morganwg. Dywed Mr. Griffiths, Llanharran, " Y mae adfywiad crefyddol wedi tori allan yn Lianharran a Threoes. Y mae gen- ym yn y gyfeillach yn Llanharran 7», ac arwyddion fod lluaws eto i dd'od. Yr ydym yn cynal cvfarfodydd gweddio bob nos, ac y mae Treoes helyd yn rhifo ei dychweledigion yn lluosog. Grym y dychweledigion, yw hen wrandawyr, ac ambell un o'r rhai na arferent fynychu moddion gras. Deallaf fod enwadau ereill hefyd yn cychwyn. Nid oes yma sŵn mawr, ond teimladau dwys, a dagrau filoedd. Mae y capelau yn llawn- ion a'r tafarnau yn weigion. Mas y tán eisoes wedi cydio yn ngwahanol gyrau ygwersyll." Mae'r dylanwadau o'riawn ryw. Gyrant ddynion i weddio; ac y mae'n anmhosibl gwybod, wrth eu CÎywed, o ba sect ydynt, a braidd y cofiant hwy eu hunain. Ysbryd Crist yw hwn. Fe ddechreucdd yr adfywiad mewn modd tarawiadol ac awgrymiadol íawn, roewn congl anghvsbell o Sir Aberteifi, a elwir Ysbyty Ystwyth, tua deuddeg milltir o Aberystwyth. (Mr. Edwards, Penllwynau, yw ein hawdur- dod.) Daeth gweinidog Wesleyaidd, o'r enw H. Jones, o'r Ameriea, i'r ardal, ac erbyn ei fod yno braidd. ymwelodd Mr. DaTÍd Morgans, gweinidog y Methodist- iaid Calfinaidd, âg ef, yn llawn awydd i wybod rhyw beth am y Diwygiad Americanaidd. Yr oedd ychydig yn rhag- farnlîyd a chyfyng, o herwydd fod rhyw beth newydd yn nulliau y gŵr dyeithr; ond trwy y cyfan, dacw nhw yn y man yn nghanol pethau crefydd. Awgrymai Mr. Jone« fod diffyg yn y pregethwyr alf pregethan ; nad oedd dim yn iawn fel y maent, a bod diffyg mawr o ysbryd gweddi. Mr. Morgans a deimlai yn ddwys, heb gymeryd llawer arno: teim- lai megys tarawiad trydanawl yn ei •wefreiddio; ond er yr oll a wnai i guddio yr effeithiau a.gai pob gair arno, methai. Trodd Mr. Morgans allan; ond nid oedd llonydd iddo yn un man—aeth yn ol drachefn at Mr. Jones, gan ddy- wedyd, "Ni all fod niwed mawr beth bynag 1 ni wneud ein gorau i gyffroi y wlad, a chadw cyrddau gweddiau pe na byddai ond un dyn yn cael ei achub.'' " Na fyddai, fmeddai Mr. Jones) ond treiwch chwi hyny, nid hir y byddwch nes byddo Duw yno." Ni aUai Mr. Morgans gael lldnydd gan y geiriau yna. Cafodd Mr. M., gyfleusdra i wrando ar Mr. J., yn pregethu yn mhen Saboth neu ddau oddiar y geiriau, " Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Sion." Ymaflodd pethau ac ysbryd y bregeth mor ddwyg yn ei feddwl nes y teimlai yn ofidus iawn o herwydd y dull yr oedd wedi cref- ydda a phregethu am y pymtheg mlynedd oeddynt wedi myned heibio. Gweddi- odd y ddau frawd gyda'u gilydd ; cadw- asant gyfarfodydd gweddiau cyhoeddus yn nghapelau y Wesleyaid a'r Method- istiaid, ac erbyn hyny, wele y gymydog- aeth wedi deffroi, y capelau yn llawn ar nos y cwrdd gweddi, a lluaws yn gwaeddi Beth a wnawn. Cadwent gyfeillach yn y capel lle y byddent, ar ol pob cwrdd, a phawb o bob enwad efengylaidd yn cael gwahoddiad i aros. Gallem feddwl fody ddau hen frawd, Wesley a Whittfìeld, y rhai, o herwydd tipyn gormod o ffrwst, a ysgarasant gynt, yn awr yn gwenu wrth weled ysbryd Cristionogaeth wedi llwyr ddarostwng ysbryd sectiaeth a gynyrfas- ant hwy. Tòrodd y tàn allan trwy holl ben uchaí y sir. Mae genym ni y ffordd hon lawer o achos i ddiolch am ymweliad Mr. W. Griffiths, Cincinnati, fmab Mr. Griffiths, Horeb.) Yr oedd ef yn llawn o sel, a synwyr, a thán America. Pender- fynasom, ar ol ei ymweliad â'r lle hwn, i gadw cyfarfodydd gweddio bob nos, ac m buedifargenym: cawsom Dduw ynddynt. Yn awr, anwyl frodyr yn y weinidog- aeth, o bob enwad, arnom ni, i raddau mawr, y mae y peth hwn, gweddiwch ara i ni gaei ein bedyddio â'r Ysbryd Ghn ac â than, modd y gallom fod mewn tymer addas i ddeffroi yr eglwysi o'u cysgaa- rwydd, achub y byd fyddo o flaen e"1 Ilygaid o byà. Hwyrach nad yw v pregethau yn hollol bwrpasol at achub, ac nad yw ein gweddiau yn haner digon dwys: ond i ni ein hunain i gael em llanw â'r Ysbryd Glan, ni a deimlwn yn iawn, ni a weddiwn, ac a bregethwn, ac