Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWll. Rhif. 267.-] AWST, 1-859. [ÇyF. XXIII ETHOLEDIGAETH. GAN Y PARCH. T. DAYIES, LLANELLI. Mae athrawiaethau y Bibl wedi cael mwy o gam ar law duwînyddion wrth geisio dangos eu cysondeb â'u gilydd, nag wrth ddim arall. Wrth eu cymeryd yn un ac un, maent yn eglur; ond wrth eu cymharu â'u gilydd er dangos eu cysondeb, gyrir ni yn aml i ddyryswch, ac weithiau i dybied eu bod yn anghyson : o ganlyniad, ymdrechir weithiau i leddfu tystiolaeth y Bibl am un athrawiaeth er mwyn dangos ei chysondeb âg un arall ; ac weithiau gwedir gwirionedd un athrawiaeth yn hollol, er mwyn diogelu, fel y tybir, wirionedd rhyw athrawiaeth arall. Athrawiaeth eglur yn y Bibl y\v, mai un Duw sydd ; eto, priodola y Bibl Dduwdod i'r Tad, i'r Mab, ac i'r Ysbryd Glân. Feily, y mae rhai yn gwadu Duwdod y Mab a'r Ys- bryd Glân, er diogelu yr athrawiaeth mai un Duw sydd. Hefyd, athrawiaeth eglur yn y Bibl yw, Arfaeth dragwyddol Duw; eto, priodola y Bibl ryddid Hawn i ddyn. Eelly mae un dosbarth, er diogelu arfaeth, yn gwadu rhyddid dyn, ac y.n dala tyngedfeniaeth ; tra mae dosbarth arall, er diogelu rhyddid dyn, yn gwadu arfaeth Duw. Ymdrech i gysoni sydd wedi achosi y dyryswch yna. Ond mae dyn, pan yn ceisio cysoni athrawiaethau y Bibl, yn gwneud peth na wna y Bibl ci hun. Mae dyn a'r Bibl yn hynyna yn anghyson. Dysgu fel un ag awdurdod ganddo mae y Bibl; ac nid ym- ostynga un amser i gysoni. Dywedodd Pedr am Epistolau Paul, fod yn- ddynt " ryw bethau anhawdd eu deall ;" ond nid aeth i ysgrifenu epistol er dangos cysondeb Paul a'r apostolion ereill, er, yn ein barn ni, y buasai yn dda pe yr ysgrifenai epistol arall er dangos cysondeb Paul a lago, am yr athrawiaeth o gyfiawnhad trwy ffydd. Mae Ilawer o draethodi wedi bod ar y pwnc wedi amser Pedr ; ond nid oedd Ysbrydoliaeth gan yr un o honynt. Un peth yw fod cysondeb, ond peth arall yw i ni allu ei weled. Y mae yn wir fod cysondeb perffaith rhwng holl athrawiaethau y Bibl, ac y mae yn wir hefyd, mai anaml yr ydym ni yn gallu ei weled. Y mae yn ddiau fod yr athrawiaeth o etholedigaeth yn berffaith gyson â phob athrawiaeth arall a ddysgir yn y Bibl, canys gwirionedd ydyw i gyd ; °nd gall y cysondeb hwnw fod yn anweledig i ni yn'aml. Ond o ran ein bod ni yn methu gweled cysondeb, nid ydym yn gweled anghysondeb. Mae yr anwybodaeth sydd yn tybio y gwel anghysondeb yn llawer mwy na'r anwybodaeth sydd yn methu gweled cysondeb. Cam ddeall rhai o athrawiaethau ,y Bibl sydd yn rhoddi bodolaeth i anghysondeb ; ond gail dyn ddeall hoìl athrawiaethau y Bibl yn berffaith, ac ar yr un pryd fethu gweled eu cysorjdeb â'u gilyild. Diau y buasai yr athrawiaeth hon wedi cael ei heshonio yn well pe buajäai Hai o ymdrechu wedi bod i'w ehÿsoni âg, athrawiàethau ereill. »♦ ,,,, - . -,,- y. ------ . •■ y • - « 28 " Y"- "'"