Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhif. 290.] TACHWEDD, 1859. RHAGLUMAETH. GAN Y PARCH. D. GRIFFITHS, Ieu., BETHËL. (Parhad o Rifyn Eydref) RHAGLUNIAETH YN EI FHERTHYNAS A DRYGAU Y BYD. " Ac yn awr,'' ebe Joseph, pan yn hysbysu ei bun i'w frodyr, " Nid»chwr a'm bebryngodd I yma, ohd Duw." Ẃele yma> gan hyny, gydnabÿddiaeth 0 egwyddor a ymweithia i'r amlwg beunydd yn ngweinyddiadau Rhaglun- iaeth y Brenin mawr. Nid yn achos brodyr Joseph yn unig y parodd Efe~ i'r drwg a fwriadai dynion ddybenu meẅh moliant i'w enw gogoneddus ei hun, a dwyn oddiamgylch ryw ddaioni pwysig i'r byd. Yn ddiddadl, bys Duw y w hyn ! Wrth honi fod Rhagluniaeth yn ymwneud â drygau y byd, nid ydys yn gwneuthur Duw yn awdwr pechod. Ein harwydd-air ydyw, ac a ddylai fod, " Pobda oddiwrth y Creawdwr; pob drwg oddiwrth y creadur." Y mae drygau y byd yn dyfod dan reolaeth Rhagluniaeth, er nad ydynt gymeradwy yn ei golwg. Dylid gwahaniaethu oddiwrth yr hyn sydd naturiol â'r hyn sydd bechadurus mewn gweithred. Deillia y naill oddiwrth y Creawdwr, a'r llall oddiwrth y creadur. Try gwrthrych weithiau yn fagl a phrofedig- aeth i ddyn ; gall y gwrtìirych fod oddiwrth Dduw, ond am y pechod a acblysurir drwyddo, oddiwrth lygredigaeth ein natur y deillia yn gyfan- gwbl. Ni feddyliasai brodyr Joseph am ei ladd, na'i werthu i'r Aifft pan y gwnaethant, pe nad aethai efe, yn ol gorchymyn ei dad, i edrych pa Iwydd- iant oedd i'w frodyr. Ordeiniodd Rhagluniaeth iddo fyned aìlan ar y cyf- ryw neges; am hyny y dywedir mai Duw a'i hybryngodd i'r Aifft, tra mae yn egîur fod pob peth ag ydoedd atgas a phechadurus yn amgylchiadau ei werthiad gan ei frodyr, yn tarddu o ddrygioni a chynddaredd eu calonau eu hunain. Mae yn eglur y gall gwrthrychau brofi yn demtasiyiiau i rai, pryd »a phrofant felly i ereill. Yr oedd y llafn aur a'r fantett Fabilonig deg yn hethau a welid gan ereill o'r Israeliaid, yn gystal a chan achau, ond efe yn unig a demtiwyd i bechod trwyddynt. Gellir bod yn sicr hefyd na chyf- lwynir dim i sylw dynion gan Ragluniaeth gyda bwriad i'w temtio i ddryg- au, ep fod Duw yn rhag-weleS, y cymerant achlysur oddiwrth yr unrhyw i gyflawni yr hyn sydd ddrwg. Os pregethir yr efengyl, cymer rhywrai achlysur i'w dirmygu a'i gwaradwyddo ; eto ewyllys Duw ydyw iddi gaei ei phregethu—-nid i demtio y truenusion hyn i bechod, ond fel y profai yn allu Duw er iachawdwriaeth i'r rhai a gredant. Y mae pelydrau yr haul yn achlysuro y niwloedd afiach godi o'r ddaear, a drygsawr o'r tomenau ; ond nid ei wres ef ydyw yr çc/ws uniongyrchol o'r pethau hyn ; canys yr ydym 1 edrycham hwnw yn natur y gwrthrychau eu hunain. 40