Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. • m- Ehif. 332.] MAI, 1863. [Cn?. XXVHI. BYWYD YN YR ATHROFA. Anerchiad a draddodwyd t> Myfyrwyr yn Athrofa y Bala, Mawrth 12, 1|63. GAN Y PARCH. R. E. WILLIAMS. [Cyhoeddedig yn y Diwygiwr, y Dysgedydd, a'r Annibynwr, ar gais y Pwyllgor.] Ajstwyl Frodyr,—Pan gofiwyf nad oes ond ychydig amser, mewn cym- hariaeth, er pan oeddwn I megys un o honoch chwithau—yn fachgen ieuanc yn y lle hwn, yn codi yn fore ac yn myned yn hwyr i gysgu, weith- iau yn darllen ac weithiau yn chwareu, weithiau yn llunio addunedau a phryd arall yn eu tori—pan gofiwyf fod y tymhor hwnw wedi myned heibio, a phan gofiwyf mor lleied o ddefnydd a wnaethym o hono, nis gallaf lai na theimlo gradd o wylder wrth gydsynio â chais y Pwyllgor i draddodi yr Anerchiad hwn i chwi yma heddyw. Buasai yn dyfod atoch, yn ddiamheu genyf, yn llawer mwy esmwyth oddiwrth rywun hŷn a mwy profìadol. Ond, gan fy mod wedi ymgymeryd â'r gorchwyl, nid oes i mi yn awr ond ei gyflawni oreu y gallwyf. Y mae esgusodion bellach yn waeth na diles, ac am hyny, yr wyf yn taflu y baich sydd genyf o honynt o'r naill du. Yr wyf wedi fy ngadael yn hollol at fy rhyddid gan y Pwyllgor am destyn yr Anerchiad, i ddwyn ger eich bron unrhyw beth a allai ym- ddangos i mi, ar y pryd, yn fwyaf cymhwys i'r amgylchiadau dan ba raiy cyfarfyddwn â'n gilydd. Y rheol ar achlysuron o'r fath, mewn lleoedd ereill, ydyw dewis rhyw ran o'r ysgrythyr, a dilyn hwnw fel testyn. Trwy hyn y mae yr Anerchiadau a draddodir i'n myfyrwyr yn ein Hathrofaau, yn bur gyffredin, yn ymddangos yn fwy tebyg i'r siars a draddodir i'r gweinidog ieuanc ar ddydd ei ordeiniad—yn bwysig iawn iddynt hwy erbyn y dyfodol, ond nid mor gymhwys, efallai, i'w sefyllfa ar y pryd. Rhaid i mi wyro ychydig oddiwrth y rheol yna y tro hwn; nid am fy mod yu gweled un bai ar y rheol ynddi ei hun, ond am nas gwn I am un ym- adrodd a allai fod o fawr wasanaeth i mi fel testyn, yn y llwybr sydd genyf yn awr o'm blaen. Bydd rhywun arall cyn hir, ar ddiwrnod pwysig iawn i chwi, yn anerch pob un o honoeh yn bersonol ar eich dyledswyddau fel gweinidogîon yr efengyl. Goddefwch, gan hyny, i mi alw eich sylw at bethau sydd yn dwyn perthynas fwy uniongyrchol â chwi fel myfyrwyr. %dd yr oll a ddywedaf yn seiliedig ar y tipyn profìad a gefais yn y lle ûwn, neu ar y sylw a gymerais o bethau a phersonau ar ol ei adael. Pa gymhwysder bynag sydd genyf i wneud hyn, gallaf eich sicrhau fod genyf y cydymdeimlad llwyraf â chwi, ac na fynwn, er dim, ddyweyd u» gair 18