Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Ehif. 354.} MAWETH, 1865. [Cn?. XXX. Y DILUW. GAN Y PARCH. RHYS GWESYN JONES. Prin y gallwn synu fod rhai personau yn amheu geirwiredd yr ysgryth- yrau, yn neillduol rhai rhanau o hoDynt. Mae rhai pethau yn cael eu dyweyd ynddynt a ymddangosant ar yr olwg gyntaf yn anghredadwy, er eu bod yn ymddangos yn wahanol iawn ar ol i'r profion gael eu hystyried yn briodol. Dichon nad oes un hanes a ymddengys yn fwy gwrthun i reswm dynol na'r hyn a ddywed y Beibl am y diluw. Dywed yr anffydd-» iwr gyda gradd o reswm ymddangosiadol, Pwy ddichon gredu fod hanes y diluw yn wir ? Ymddengys megys hen draddodiad am lifeiriant lleol wedi ei weithio allan gan ddyehymyg barddonol. A ellir dysgwyl i ni gredu. fod Duw wedi goddef i ddynion fyw ganoedd o flynyddoedd ar y ddaear, a rhoddi iddynt gynifer o fendithion a thrugareddau; parhau i ymddwyn fel hyn at un oes ar ol y llall, ac yn y diwedd eu hysgubo ymaith ar un- waith braidd heb ddim rhybudd ? A yw yn debyg nas gallesid cael ond un yn mhlith cynifer yn werth ei gadw ? A yw yn debyg y dinystrid cy- nifer o weithiau celfyddyd, y teflid. cynifer o ddinasoedd i ddinystr ? Ai tybed y dinystrid yr holl draddodiadau teuluaidd, ac y teflid dynolryw i'r sefyllfa blentynaidd yr oeddynt ynddi ar y cyntaf, fel ag i'w gorfodi i ail hwylio eu camrau dros yr un tir yn eu hymgais am wybodaeth a phrofiad ? Onid yw hyn yn hollol groes i'r cyfan a wyddom ni am weithrediadau a chymeriad Duw ? Onid yw hyn yn ymddangos fel pe byddai Duw wedi methu yn ei gynlluniau, a'i fod dan yr angenrheidrwydd o ddechreu drachefn ? Dyma rai o lawer o'r cwestiynau a gyfodant i raddau yn natur- iol, ac ydynt wedi eu gofyn lawer gwaith gan y rhai a osodant eu rheswm eu hunain, neu eu goleuni mewnol fel ei galwant, yn rheol am bobpeth ddylent gredu. Yr ydwyf wedi fy nwyn i fyny yn y grediniaeth o wirionedd yr hanes hon, a gallaf yn ddifrifol dystio fy mod trwy ymchwiliad manwl wedi fy nghadarnhau yn y grediniaeth fod y diluw yn ffaith hanesyddol. Cynyg- iaf ddwyn yn mlaen resymau dros y gosodiad yma, pa rai ydynt wedi boddloni fy meddwl I; a chynygiaf wedi hyny glirio cymeriad Duw rhag y dybiaeth ei fod wedi methu yn ei amcan wrth greu dyn a boddi y byd. Gallwn ddechreu gyda dyweyd, os bu y teulu dynol unwaith gyda eu gil- ydd mewn rhyw gysylltiad ag amgylchiad pwysig fel hyn, geÜid dysgwyl rhyw gyfeiriadau pur amlwg at hyn yn mhlith holl genedloedd y ddaear. Mae genym brofion lluosog mai folly y mae, oblegyd dywed teithwyr wrthym fod traddodiad am y diluw yn mhlith holl genedloedd y ddaear. Dywedai y Caldeaid i'r duw Chronas ddyfod at Xisthurus mewn gweledig- aeth, ac hysbysu iddo y dinystrid y ddaear trwy ddwfr ar ddiwrnod penod-