Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

284 HÀNE8I03J. Gvdweithrediad, gan y Parch. E. Hughes, Pêntnain; y Parch. H. J. Thomas, ficer y plwyf, yn ŷ gadair. Cyfarfod llwyddianus dros ben yn mhob ystyr. Teimla yr eglwys a'i gweinídog yn ddiolchgar i'r darlithydd, y cadeirydd, a'r ardal, am eu cymhorth er dileu dyled y capel.—J. D. Bryn, LlanellL—Cynaliwyd cyfarfod bly- nyddol y lle hwn Sabbath, Awst 13, a'r nos Xun canlynol. Pregethwyd gan y Parchn. R. Morgans, Glynnedd, a L. Davies, Sketty. Yr oedd y cenadau fel pe yn anfonedig Duw; daethant atom a "chyflawnder bendith yr efengyl." Cawsom hin hyfryd; yr addoldy yn orlawn o wrandawyr astud, effro, a dryll- ìog; a'r casgliad yn agos i £60. Ychydig cyn hyn y gwnaed dros £20 trwr ddarlith ragorol ar Madagascar, gan y Parch. D. Jones, B.A., S»ar, Merthyr. Tr ydỳm yn foddhaol, ac yn llawenychu yn y cyfanswm; ac yn lled hyderus y byddwn wedi gorphen talu y ddyled cyn blynyddau lawer eto. . Casllwchwr.—Sabbath, Gorph. 23, a'r Llun canlynol, cynaliwyd cyfarfod blynyddol Horeb yn y lle hwn ; prydy pregethwyd yn nerthol, hwylus, a dylanwadol i gynulleidfa- oedd lluosog, astud, a gwresog, gan y Parchn. D. M. Davies, Maesycwmwr; T. Edwards, Penbre; T. Jones, Penuel; H. Evans, Jeru- salem; J. Jones, Carmel; J. Mathews, Cas- tellnedd ; a J. Joseph, Llanedi. Yr oedd pob peth wrth ein bodd—yr hin yn hyfryd, y cynulliad yn rhagorol, y gwrandawiad yn fywiog, y pregethau yn afaelgar, a'r casgliad yn haelionus. PEIODASAU A MAEWOLAETHAU. BU FARW,— Gorph. 26, yr hybarch Caleb Morris, yn Gwbert, ar lan y môr ger Aberteifi. Yn Coedcenlas, yn agos i Penygroes, y cyneuwyd y ganwyll fawr hon, ac yn Gwbert y diffodd- odd. Gan y dysgwyliwn y bydd i rywun ein hanrhegu a chofiant helaeth o hono, ni ychwanegwn yn awr. Awst 8, yn 39 oed, Sarah, anwyl wraig Mr. S. Walters, Capel Mydrim, sef merch Mr. W. Rees, Plasparke, Llanwino. Cladd- wyd hi yn Cana y dydd Iau canlynol, pryd y gweinyddodd y *Parch. A. Jenkyn, y gwein- idog. Gadawodd briod anwyl a thri o blant i alaru af ei hol. Derbyniwyd hi yn aelod yn Capel y Graig, Trelech, pan yn 12 oed; bu yn fÊyddlon iawn yno gyda yr achos, ac wedi hyny am 18 mlynedd yn Cana. Credir gan bawb a'i hadwaenai fod marw yn elw iddL—A. J. Awst 14, John, mab ieuengaf y diweddar Barch. W. Moses, Tabor, Cefncoedcymer, yn nhy ei ewythr a'i fodryb (chwaer ei fam), yn Nghaerfyrddin. Bu y teulu parchus hyn ar eu goreu i roddi pob cymhorth iddo ; ond marw a wnaeth, a lle sicr i gredu ei fod wedi marw yn yr Arglwydd. Dydd Mawrth can- lynol, cludwyd ei gorff mewn elorgerbyd i fyny i'r Cefn, i dy Thomas, ei frawd hynaf. Dydd Iao, o gylch 4 o'r gloch, ymgasglodd lluaws yn nghyd, ac awd i Tabor, hen fan anwyl ei dad* Pregethwyd ar yr achlysur ry Parch. R. Griffiths, gweinidog y lle. lan y bedd cafwyd anerchiad byr, ond cynwysfáwr iawn, gan y Parch. J. Evans, Fochriw. Wedi canu penill ymadawodd' pawbr gan ei adael gydai rieni duwiol hyd íore udganiad yr udgorn mawr. Ganwyd. ein brawd ieuanc yn 1842, yn Libanus, yn ýmyl Aberhonddu. Pan ymadawodd ei dad ag eglwys Libanus yn 1848, i gymeryd gofal eglwys Tabor, daeth i Merthyr i fyw. Yn fuan wedi i'r teulu ddyfod yma, anelodd angeu ei saeth farwol atyht. Medi 17, 1849, yn ddwy flwydd <fed, bu farw Ebenezer. Ebrill 19, 1854, yn 4 rois oed, bu farw Emma Jane. Gorph. l", yv un flwyddyn, bu farw yr anwyl a'r dduwiol fam, yn 53 oed. Gadawyd y tad a 5 o blant i alaru ar ei hol, tri mab a dwy ferch. Tua blwyddyn ar ol hyn, aeth John i'r Congregational School, Lewisham. Yn yr adeg hon aeth ìechyd y tad yn wael, ac wedi bod yrt llafurus a diwyd am 25 o flynyddau yn y weinidogaeth bu farw Meh. 27, 1857, yn 49 oed. Yn awr wele y plant heb na tlíad na mam i ofalu am danynt. Yn yr amgylchiad hwn daeth John adreu, ac o nerwydd fod ei iechyd yn wanaidd arosodd amryw fisoedd gartref. Yn yr adeg yma derbyniwyd ef yn gyflawn aêlod o eglwys Crist yn Tabor, gan olynydd ei dad, sef R. Griflìths. Aeth eilwaith i'r ysgol; ond o herwydd gwendid ei natur methodd orphen ei amser, daeth adreu at ei frodyr a'i chwior- ydd, y rhai a fuont yn dyner iawn iddo, ac y mae yn glod iddynt y dydd hwn. Tua'r flwyddyn 1861, aeth i fasnachdy y parchus a'r duwiol Mr. Charles, Pontstorehouse, yr hwn sydd yn awr yn ddiau yn y nefoedd, a'i enw yn perarogli ỳma gyda ni. Bu yn y He hwn yn agos ì ddwy tíyaedd, mewn parch mawr fel dyn ieuanc. Yn y flwyddyn 1863, Ímadawodd oddiyno. ac aeth at Mr. D. S. ewis i fasnachdy Cwmpeini Victoria; bu yma tua dwy flynedd, ac yr oedd wedi dyfod ì barch ac ymddiried mawr. O herwydd fod ei iechyd yn raddol yn gwaethygu, daeth at ei frawd Thomas i'r Cefn tua dau fis yn ol; ac aeth at ei berthynasau i Gaerfyrddin, a chafodd roesaw mawr gan y gwahanol deulu- oedd. Yr oedd yn yr ymadawedig feddwl cryf i wella, eto yr oedd yn foddlon ì ewyllys ei Arglwydd. Gorphenodd ei yrfa yn y byd hwn yn ieuanc. Gan fod un yn ei fabandod o'r plant wedi ei gladdu yn Libanus, cyn sy- mfidiad y teulu i Merthyr, gwelir fod 6 o'r teulu wedi eu symud o'n byd ni, a lle cryf i gredu eu bod wedi myned ì'r nefoedd, a 4 o'r plant gyda y gwaith yn parotoi i fyned ar eu hol. Yr Arglwydd a roddo lawer o ras iddynt fyw bywyd duwiol, ac a'u gwnelo yn gymhwys i'r nefoedd yn y diwedd, yw dy- muniad o galon un ag sydd yn eu caru.— R. G.