Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. EBRILL, 1868. PATJL YN ATHEN. GAN Y PABCH. T. DAYIES, LLANDILO. Yn y benod gyntaf o'i lythyr at y Bhufeiniaid, dywed yr apostol Paul, " Dyledwr ydwyf i'r Groegiaid." Nid yw yr ymadrodd yn dangos fod ÿ Groegiaid wedi rhoddi unrhyw ffafr i'r apostol, ac fod y ffafr hono yn ei rwymo i dalu yn ol iddynt. Ond y meddwl yw, ei fod o dan rwymau i bregethu yr efengyl i bawb ag oedd yn bosibl iddo wneud. Yr oedd y rhwymau hyny yn cyfodi oddiar fod yr Arglwydd wedi ei neillduo i'r gwaith; yr oedd yn llestr etholedig i ddwyn enw Duw ger bron yr holl genedloedd. Yr oedd pethau yn wahanol iawn yn yr amseroedd hyny i'r hyn ydynt yn awr. Ar ryw olwg, y mae yn anhawdd i ni ddychymygu am sefylífa wahanol i fel y mae pethau gyda ni yn bresenol. Yr ydym ni yn cael ein cylchynu gan sefydliadau Cristionogol; yn anadlu awyr sydd wedi cael ei thymheru a'i nawseiddio gan Gristionogaeth. Mae yn anhawdd, ar ryw olwg, i ni feddwl am sefyllfa wahanol. Yn y meddiant o ryddid, mae yn anhawdd i ni gael syniadau cywir am allu deifìol a maluriol caethiwed; yn nghynydd y celfau a'r gwyddorau, i gael syniadau cywir am feddwl mewn sefyllfa hollol lonydd ; yn nghanol rhyddid crefyddol, i gael syn- iadau cywir am deyrnasiad ofergoeliaeth noeth. Er teimlo gwerth iechyd, rhaid i ni eistedd wrth wely y claf; er teimlo gwerth goleuni, rhaid i ni ddisgyn i ryw ogof dywell; er gwybod am gysuron tywyniad haul, awn i ryw gwm Ue nad yw yr haul yn ymddangos ond rhyw brin dwy awr yn y dydd ; ac er gweled pa beth ydym wedi dderbyn oddiwrth Gristionogaeth, byddai yn dda i ni ar amserau daflu golwg dros y tywyllwch ag y mae Oristionogaeth wedi ein gwaredu o hono. Golygfa ddyddorol iawn yw edrych ar yr apostol Paul yn dwyn Cristioù- ogaeth i gyffyrddiad a'r cymeriad Groegaidd. Gorfu iddo ymadael o Berea yn hynod o annysgwyliadwy, oblegyd y terfysg a gyfodwyd gan yr luddewon o Thessalonica, ac felly amddifadwyd eglwys y Bereaid o'a dysgawdwr gwerthfawr. Ond arosodd Silas a Thimotheus ar ol i'w had- eiladu yn y ffydd Gristionogol, ac i'w cysuro yn wyneb erlidigaethau a threialon, ac i'w cyfarwyddo mewn gwahanol bethau. Yn y cyfamser, ẅele rai o'r dychweledigion newydd yn myned gyda Paul pan yn gorfod ymadael o Berea, ac yn-ei ddwyn hyd yn Athen. "A chyfarwyddwyr 13