Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. MAI, 1868. ANERCHIAD I FYFYRWYR ATHROFA Y BALA. A. draddodwyd Mawrth 25, 1868. GAN Y PARCH. W. EDWARDS, ABEBDAR. Fbodyr,—Ni bum erioed yn feistr ar wneuthur ymddiheurad, pe amgen, myfi a'i gwnaethwn y tro hwn. Dichon mai o'r braidd y dylaswn gyd- ymffurfio a chais y pwyllgor, drwy addaw eich anerch, gan fod yma amryw frodyr a thadau a'i gwnaethai yn llawer mwy galluog na mi. Er mai o'r braidd y caniataf fod yma neb yn fwy o gyfaill myíyrwyr ; ac hyd y gellais, wedi bod felly bob amser mewn gair a gweithred. Modd bynag, yr wyf yn ddigon hen, ac weithian wedi cael peth profiad; mor bell a hyny, dichon y gellwch roddi rhyw gymaint o bwys ar y pethau y galwaf eich sylw atynt. Erodyr, yn ddigon hen à ddywedais ? Mor gyflym y mae ein hamser yn myned heibio. Nid yw ond megys doe genyf feddwf er pan oeddwn yn croesi Micnant o Ffestiniog i Lanuwchlyn, i gychwyn fy addysg o dan ofal hybarch sylfaenydd yr athrofa hon—y diweddar a'r anfarwol Michael Jones; ac eto, mae yn agos i ddeuddeg ar ugain o flwyddi meithion wedi myned dros fy mhen er y pryd hwnw. Nid oedd yr athrofa y pryd hwnw ond bechan a dinod, er i rai cewri gael eu magu ynddi cyn hyny. Ac yn wir, myfi fy hun yn unig oedd y goreu a'r gwaelaf o'r alumni pregethwrol ar y pryd; a rheswm da dros hyny, gan nad oedd un pregethwr i'w gael ynddi ond fy hunan. Yr oedd yno dri o hogiau digon direidus, y rhai ar ol hyny a ddaethant yn weinidogion enwog, sef y Parchn. Ellis Thomas Davies, Abergele ; Joseph Morris, gynt o Narberth, yn awr o Bryste; a'r olaf, os nad y penaf, Michael Jones, athraw parchus yr athrofa hon. Ond erbyn heddyw, wele yn yr athrofa ddau athraw, a'r ddau wedi eu magu ynddi hi ei hun, a 22 o fyfyrwyr; ac wele finau, er nad o herwydd y ddoethineb sydd ynof yn fwy na neb byw, yn meddu yr anrhydedd o anerch y myfyrwyr. Fel hyn y mae dull y byd yn myned heibio. Ac yn wir, yr ydym ni yn byw mewn amser rhyfedd yn oes y byd—amser ó gyd- ymdrech rhwng y pethau a fu, y sydd, ac a ddaw ar ol hyn ; amser pan y mae dyn drwy y cyfan yn prysuro i ymddyrchafu i'w safle wreiddiol o fod yn arglwydd y greadigaeth, pryd y bydd pob peth wedi eu darostwng dan ei draed ef. Mae rhyw gyÛToad uwch ddynol bron wedi ei roddi i'w 17