Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWfL HYDREF, 1868. DECHEEUAD A HANES LLYFEAU Y TESTAMENT NEWYDD. GAN CAERWYSON. Penod II. Wedi sylwi yn y benod flaenorol, a dwyn yn mlaen fy rhesymau dros yr achos o ysgrifeniad llyfrau y Testament Newydd, af rhagof yn awr i edrych pa fodd eu casglwyd yn un llyfr, yn y dullwedd y maent gyda ni yn bresenol. Daeth amser ar yr Eglwys Gristionogol pan y teimlwyd yr angen am y casgliad yn nghyd yn un llyfr, pe buasai ond er cadw y gwir- ionedd rhag cael ei lygru gan dybiau ac opiniynau gwag dwylí, cadw ffeithiau rhag cael eu claddu yn nhomenau chwedlau paganaidd, a gwneud i fyny safon gyffredinol, i'r hon yr ymrwymai pawb oll, ac at yr hon y gallasai pawb apelio. Dyma yr hyn y bwriadaf ymdrafod ag ef yn y benod hon. 1. Pa/odd y casglwyd y llyfrau. Wrth wneud ymchwiliadau gyda y pwnc hwn, y mae yn dyfod yn fater anhawdd i'w ateb. Pe buasai rhyw gyd-drefniad allanol yn rhwymo yr holl eglwysi yn nghyd, neu ryw awdurdod ganolog, naill ai brawdle o esgobion neu bab, yn wybyddus o fodolaeth yr holl ysgrifeniadau hyn, buasai yn hawdd ddigon i ymaflyd mewn mesurau dioed er eu casglu yn nghyd a dosbarthu eiluniadau (copies) o honynt yn mysg y gwahanol eglwysi trwy y byd ; ond nid oedd dim o'r fath bethau i'w cael. Yr oedd yr eglwysi ag oedd mewn meddiant o rai ysgrifeniadau, yn llwyr a hollol anwybodus o fodolaeth ysgrifen- iadau ag oedd yn meddiant eglwysi ereill, a llawer o'r eglwysiyn llwyr anwybodus o fodolaeth yr ysgrifeniadau hyny o gwbl; ac yr oedd y cyf- ryngau sydd yn ein meddiant ni yn awr, er gwneud cyffelyb gasgliadau, yn bethau hollol ddyeithr i'r eglwysi cyntefig. Yr oedd rhoddi allan hys- bysiadau yn bethau annichonadwy; a phe buasai yn ddichonadwy, yr oedd yn hollol ddifudd, pan mai yr hyn oedd mewn golwg oedd casglu yn nghyd ryw ugain neu ddeg ar ugain o lythyrau a llyfr-ranau ag oedd yn meddiant personau a chyfundebau anadnabyddus, y rhai oeddynt yn was- garedig y naill oddiwrth y llall ryw ganoedd o fiíltiroedd. Yr ydym yn gweled yn amlwg nad allasai goruchwylwyr teithiol, pe buasent yn cael eu rhoddi ar waith, gyflawni y gorchwyl, am fod yr ysgrifeniadau yn anhysbys ac yn meddiant personau anwybyddus, y rhai oeddynt yn was- garedig o'r naill gwr i'r cwr arall o'r ymherodraeth Eufeinig. 37