Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. EBRILL, 1869. GAN Y PAÄCH. JOHN DAYIES, LLANWNOG. "Ac mi a wn, pan ddelwyf atoch, y deuaf a chyûawnder bendith efengyl Crist, Eithr yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er mwyn ein Harglwydd lesu Grist, ac er «ariad yr Ỳsbryd, ar gydymdrech o honoch gyda myrì mewn gweddiau drosof fì at Dduw."—Kuuk. xv. 29. 30. Yr oedd yr apostol pau yn ysgrifenu yr epistol hwn ar fyned i weini i'r saint; nid mewn pethau ysbrydol yn unig, ond hefyd mewn pethau tymhorol. Yr oedd yn Jerusalem saint tylodion, ac yr oeddynt y pryd hwn niewn cyfyngder mawr, o herwydd y newyn mawr a gymerth le dan Claudius Cassar. Ond fe deimlodd saint lleoedd ereill dros saint tylodion Jerusalem, yn enwedig y saint yn Mace'donia ac Achaia(Adn. 26.) Yr oeddynt wedi gwneud uwchlaw eu gallu, a hyny yn wirfoddol. "Canys rhyngodd bodd iddynt." Hyny o rinwedd sydd yn ein cyfraniadau ni ydyw eu gwirfoddolrwydd. " A'u dyledwyr hwy ydynt.'' Oblegyd os cafodd y cenedloedd gyfran o'u pethau ysbrydoi hwynt, hwythau hefyd a ddylent weini iddynt hwythau mewn pethau cnawdol (Adn. 27). Y mae derbyn daioni oddiwrth ein gilydd yn ein gwneuthur yn ddyledwyr i'n gilydd. Wedi hysbysu iddynt yr . anmhosibilrwydd iddo ymweled a hwy yn Rhufain ar y daith hon, y mae.yn addaw galw heibio ar ei daith i'r Hispaen; a phan ddelai yr oedd yn gwybod y delai atynt a chyfiawnder bendith efengyl Crist. Yr oedd ganddo fendithion tymhorol i fyned i Jerusalem, ond cyflawnder bendith Crist yn unig oedd ganddo i fyned i Rufain. Atolygai arnynt weddio drosto, yn gyntaf ar i4do gael ei wared oddiwrth y rhai anufydd yn Judea, sef y rhaí