Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

T DIWYGIWR. HYDEEF, 1869. ----~»----- Ä draddodwyd yn Nghyfarfod Chwarterol Cwmbach, Medi 8, 1869, GAN Y PARCH. W. EDWARDS, ABERDAR, LLYWYDD Y CYFUNDEB. Feodyr aTeadau,—Gwn nad ydych yn dysgwyl ymddiheurad oddiwrthyf am ymgymeryd a llywyddiaeth y cyfundeb am y üwyddyn ; a phe byddech yn ei ddysgwyl, nid wyf yn bwriadu ei wneud, gan y gwn, pe y gwnelwn ef, mai yr oìl o'r gwahaniaeth rhyngddo a phob un arall fyddai, fy mod I yn ei wneud ac nid arall; a gwyddoch nad oes pwys yn hyny. Eto, goddefwch i mi ddyweyd nad wyf heb deimlo yr anrhydedd a'r cyfrifoldeb sydd yn nglyn a'r swydd. Felly, gan i chwi fy ngosod yn nghadair Moses, rhaid i mi erfyn am i chwi fod fel Aaron a Hur yn cynal breichiau y lywyddiaeth i fyny, obiegyd un llai na Moses sydd yma. Frodyr caredig yn yr Arglwydd, yr ydym wedi ymgyfarfod yma heddyw o dan amgyîchiadau gwir ddyddorol. Daethom yma i roddi pen wrth ben, a chalon wrth galon, er cynllunio yn nghylch y fíbrdd oreu i ddwyn achos y Gwaredwr yn mlaen yn yr eglwysi o dan ein gofal, a thrwyddynt hwy yn y byd mawr llydan ; oblegyd wedi y cwbl, y maes yw y byd. Dyíem fyned i ysbryd a chalon yr achos ar unwaitl^—mae o yn orlawn o bobpeth sydd yn bwysig a dyddoròL Ŷr ydym yma heddyw fel cyfundeb. Mae gwedd yn perthyn i'r achos mawr nad oes modd i ni ei weithio allan yn effeithioi heb ymgymeryd a ffurf fel hyn. Mae cyfundeb o gyfansoddiad «hydd ac ysgrythyrol yn ffurf arbenig, ac yn ffurf bwysig a man- 19