Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. MAWRTH, 1870. jr fprrgîr %\wx p û ferí|gMS ẁ ÄÄÌwprfjr, gr ^ìrkMt a ŵaitjr gr %Itog^ GAN Y PARCH. R. W. DALE, M.A., BIRMINGHAM. [Traddodwyd yr Anerchiad canlynol gan Mr. Dale yn Nghyfarfod Hydrefol yr Undeb Cynulleidfaol a gynaliwyd yn Wolverhampton, 1869 Mae yn amserol, a braidd yn angbyd- marol dda; cmhvn y bydd y cyfieithad cantyuol yn gaffaeliad mawr i'n darllenwyr sydd heb ei ddarllen yn y iaith Seisnig.—Gol.J Mae Rhufain, mewn oes o amheugarwch cyffredinol, wedi dadgan ei ffydd anghyfuewidiol yn mhresenoldeb goruwchnaturiol yr Ysbryd Glan mewa llywodraethwyr eglwysig a Chynghorau; mae hi oddeutu gweithredu ar y ffydd hono mewn beiddiad mawreddog i wawd agos holl Ewrop. Dymuu- wyf chwilio y boreu hwn a ydyw ein credo ardderchocach ni yn cael ei dala gyda yr un afael ddisigl ac egniol, ac a ydyw yn cael ei hegluro a'i myntumio yn briodol yn mywyd gweithredol a chyfansoddaeth ac arferion yr Eglwysi Cynulleidfaol yn y wlad hon. Er atal camsynied, dichon y byddai yn dda i ddywedyd yn eglur fod yn rhaid gwneud yr ymchwiliad yma o fewn terfynau penodol iawn. Rhaid gadael llawer o bynciau pwysig heb eu cyffwrdd o gwbl. Dymunwn chwilio a ydym, yn niwylliad a dysgyblaeth y bywyd crefyddol, yn cydna- bod yn gyfaddas berthynas Ysbryd Duw i ddadhuddiad santeiddrwydd Cristion^ol; ac a ydym, yn ein gwaith efengylaidd gartref ac oddicartref, yn oofio yn gyson fod gan Ysbryd Duw ddyfodfa uniongyrchol i ddyfn- derau mewnol yr enaid dynol^y rhai sydd yn gorwedd yn mhe!i tudraw i gyrhaedd pob rheswm a phob apeliad ? Tra mae holl rediad meddwl Ewrop yn cau y Duw byw allan o'r cyfanfyd materol, yr ydym ni ein hunain mewn perygl i wadu neu anwybyddu ei bresenoldeb digyfrwng yn mywyd uwclpdyn. Dichon mai yr hyn }'dy w deddfau Natur i rai o efryd- wyr gwyddoniaeth anianol, ydyw ffeithiau raawrion ac athrawiaethau y ffydd Gristionogol, ei hordinhadau a'i dysgyblaeth, i ni. Gallwn feddwl am danynt fel cyfundraeth fawr o alluoedd ysbrydol, yn dechreu yn wir naewn gweithred oruwchnaturiol a dwyfol, ond wedi eu gadael iddynt eu hunain, i weitliio yn mlaen drwy oes ar ol oes heb un cyfryngiad o eiddo yr ewyllysiad dwyfol—galluoedd y rhai sydd yn ddigyfnewid a chyson, a deddfau pa rai y gali cywreinrwydd dynol eu darganfod. Gall perthynas