Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. MEHEFIN, 1871. GAN IOAN PEDR, BALA. " Ac a ganfu Abraham o hirbell, a Lazarus yn ei fynwes.*'—Luc xvi. 23. Diatj fod llawer yn gwrthod neu yn oedi credu yr efengyl am eu bod yn dysgwyl rhyw ymweliad neillduol. Dysgwyliantddylanwad gwyrthiol ac anwrthwyneboi. Nid yw moddion cyffredin argyhoeddiad o fawr bwys yn eu golwg. Edrychant mewn ystyr yn ddirmygus ar ddarllen y gair, pfe- gethu yr efengyl, ac ar fyfyrdod a gweddi ddirgel. Ffurfia y dosbarth anfoddog yma sectau newyddion weithiau, gan lunio a chymhell athrawiaethau ne'wyddion a dyeithr. Yr oedd enwad o'r dar- luniad yma wedi cyfodi yn ddiweddar yn Lloegr ac America. Daliai y twyllwyr hyn fpd yn ddichonadwy dal cymundeb ag eneidiau ymadawedig drwy guro ystolion a byrddau. Haerent y gellid cyflawni gwyrthiau ^rwy Ryft'^ng yr ysbrydion gwysedig. Cymerent arnynt seilio eu cyfun- drefn ar ysgrythyr a gwyddor, a honent mai drwy eu cyfrinion hwy yr oedd y byd i gaeÌ ei argyhoeddi a'i ddychwelyd. Ymddengys fod yr un dosbarth yn mhlith gwrandawyr ein Hiachaẃdwr. I gyfarfod a'r cyfryw y llefarodd efe ddameg y goludog a Lazarus. Bu y gwr goludog drwy ei fywyd yn dysgwyl cynhyrfiadau anghyffredin, gan esgeuluso dyledswyddau cyffredin bywyd. Tybiai nad oedd gwasanaeth y synagog ac aberthau y deml yn foddion digon nerthol i gyrhaedd yr amcan, a chredai nad oedd dim llai nag adgyfodiad un oddiwrth y meirw, a chenadwri ofnadwy y cyfryw, yn ddigon i ddeffroi cydwybod gysglyd. ölyna yn y dyb ynfyd hon hyd y nod ar ol myned i fyd tragywyddol. Erfynia ar Abraham anfon Lazarus i bregethu i'w bum brawd annuwiol a adawsai ar ol. Ateba Abraham mewn geiriau a ddýlent gael eu hargraffu yn ddwfn yn nghalon pob gwrandawr efengyl, "Oni wrandawant ar ^oses a'r proffwydi, ni chredentchwaith pe cyfodaì un oddiwrth y meirw." Y mae genym ni yn awr effeithiolach cenadwri na deddfau yr hen oruchwyl- iaeth; a gallwn ddywedyd yn hyf nad oes gan Dduw un moddion mwy nerthol at argyhoeddi a dychwelyd pechadur na threfn yr efengyl. Er mai dyna ergyd y ddameg, dichon y gallwn fanylu gyda phriodoldeb M ei gwahanol ranau. Ni fynem, fel rhak honi mai hanes gwirioneddol a gynwysir yma; eto gan ei bod yn ddame^yn ol ystyr briodol y gair ac 21