Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. TACHWEDD, 1871. GAN Y PARCH. H. JONES, FFALDYBRENIN. Mae chwilio i ffynonell ddecbreuol unrhyw beth yn waith dyddorol iawn ; y mae hyn mor ddyddorol gán ddyn fel y gwyneba ar y peryglon mẃyátf, ac y gweitha ei ffordd drwy yr anhawsderau cadarnaf er eael gwybodaeth. am ddechreuad gwahanol bethau a gwrthddrychau. Dangosir y duedd- fryd hon gan yr ymchwilwyr hyny sydd yn ddigon gWroli dreulio misoedd a blynyddoedd i drigianu a theithio yn nghanol anialdiroedd diffaeth, ac yn mhlith llwythau anwaraidd, a hyny mewn amddifadrwydd o'u cysuron a'u cyfleusderau cynefinol, ac yn ddarostyngedig i galedi a blinfydon afrifed; a'r oll yn cael ymgymeryd ag ef er cael allan darddiad rhyw afon fyd-enwog, neu sefyllfa ddechreuol rhyw ddinas a fu gynt yn ogoniant y gwledydd, neu er cael gwybod beth oedd sefyllfa wareiddiol, yn y cyfnodau boreuaf, rhyw lwyth neu genedl ddarfu wedi hyny ymgodi i fri ac enwog- rwydd ar chwareùfwrdd hanesyddol cenedloedd y ddaear. Trwy drugaredd rhoddir hanes y pethau pwysicaf i ni yn eglur a phenderfynol, a hyny gan Dduw ei hun ; ac yn mhlith pethau ereill rhoddir i ni hanes dechreuad y teulu dynol. Pe na fyddai genym hanes cywir a chredadwy am ddechreuad dyn, y tebygolrwydd yw y byddai awyddfryd y meddwl i wybod o ba le, a pha fodd y daeth dyn yr hyn yw, yn angerddol o gryf; a sicr yw y byddai dyfaliadau a damcaniaethau dynion yn nghylch hyn yn Uuosog a rhyfeddol iawn ; ond penderfyna y Beibl y mater hwn, a rhydd foddlonrwydd cy- ffredinol i chwilfrydedd y meddwl, gydag eithriadau.' Rhydd y Beibl hanes creadigaeth dyn ddwywaith, ac y mae ychydig o wahaniaeth yn bod rhwng y ddau hanes, ond nid oes gwrthddywediad. Y rheswm o'r gwahaniaeth yw, fod y ddau hanes wedi eu rhoddi mewn cysylltiadau gwahanol, a chydag amcanion gwahanol. Gesyd yr hanes cyntaf, yr hwn a geir yn Genesis i. 26—27, ddyn allan fel gorchestwaith Duw yn y greadigaeth, a gorpheniad ei waith creadigol; ond gesyd yr ail hanes, yr hwn a geir yn Genesis ii. 7, ef allan yn ngoleuni yr amgylchiadau oeddynt i gymeryd 11© yn ol llaw—yn ngoleuni ei hanes dyfodol. Mae y modd y creodd Duw ddyn yn wahanol i'r modd y creodd efe bob peth arall. "Bydded," meddai Duw wrth'îgreu haul a lloer, môr a tbir, llysiau ac anifeiliaid; ond ' 41