Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWE. CHWEFROR, 1872. tolrŵip^ DìrgftfM gr ^mmftàrL GAN Y PARCH. D. DAYIES, CASNÜWYDD-AR-WYSG. Mat, xxv. 46.—" At rhai hyn a ant i gosbedigaeth dragywyddol," âc. Pan ofynwyd i Simonedes yr athronydd, i ddesgrifio Duw, deisyfodd gael wythnos i feddwl ar y pwnc,*ac wedi hyny fis, ac yna blwyddyn; a'r diwedd fu iddo roddi i fyny y gorchwyl, gyda dyweyd mai pa fwyaf a feddyliai am y fath Fod mawreddog, mwyaf oll y teimlai ei analluawg- rwydd i'w ddesgrifio. Bu rywbeth yn debyg gyda mi mewn perthynas a'r pwnc ofnadwy o ddifrifol, ac ofnadwy o boenus sydd genyf i bregethu arno heddyw. Pan ofynodd Cynadledd y Oyferfod Chwarterol hwn yn Nhredegar i mi bregethu ar " Gosbedigaeth Ddyfodol yr Annuwiol," rhoddasant dri mis i mi barotoi at hyny. Yn ystody tri mis hyny darllen- ais lawer, a myfyriais fwy, ar y pwnc; ond daeth y tri mis i fyny, a minau heb fod yn barod. Wedi hyny cefais dri mis arall, ond daeth y rhai hyny i ben, a minau yn yr un cyflwr o anmharodrwydd. Oddiar dosturi a theimlad da tuag ataf, feddyliwn, rhoddwyd tri mis arall i mi, ond wedi cael yr holl amser yma, bum bron a rhoddi i fyny y gorchwyl, oblegyd pa fwyaf feddyliaf ar y fath bwnc pwysig, mwyaf oll jTteimlaf fy analluawg- rwydd i'w amgyffred a'i egluro. Ac yn wir, ei roddi i fyny a wnaethwn hefyd, oni buasai fy mod trwy hyny yn gwneud fy hun yn agored i'r cy- huddiad o fod yn gyndyn ac anufydd i gais fy mrodyr; a mwy na'r cwbl, gosod fy hun yn agored i'r cyhuddiad o fod yn rhy ofnus a llwfr i amlygu fy nghrediniaeth a'm barn, o barthed i un o brif bynciau crefyddol y dydd. A phan yn pregethu ar *' Óosbedigaeth Ddyfodol yr Annnuwiol," nerthed Duw fi fod yn ystyriol a phwylloe, rhag ofn i mi wrth bregethu y fath athrawiaeth ddychrynllyd, bregethu fy nhynged druenus fy hun. Peth arall sydd yn ei gwneud yn anhyfryd a phoenus i bregethu ar y &sth bwnc a hwn ydyw, y gosodir fi o dan yr angenrheidrwydd i gyfeirio tuag at farnau dynion, os nad ydyÁt yn anffyddwyr yn mhob athrawiaeth ysgrythyrol, eto, ydynt yn anffyçldwyr mewn perthynas a'r athrawiaeth fton. Ddylem ni ddira cymaint a chyfeirio tuag at anffyddwyr ac anffydd- Ẃeth yn yr areithfa. Paham y caniatawn i anffyddiaeth y cyfleusdra o wneud ei hun yn adnabyddus trwy bregethwyr Cristionogol, ac yn mysg