Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. GORPHENHAF, 1872. [r ulgomm fiŵ tpifer 0 %ífegsi I;ẃ ffîẁfàti$um GANY PARCH. W. EVANS, ABERAERON. [Darllenwyd yr Anerchiad canlynol yn nghynadledd Cymanfa Capel Wig, Mehefin 5ed, ac argrefiìr e£ ar gais y gynadledd] Cyn sylwi yn neillduol ar y mater hwn, priodol yw dweyd ychydig am y swydd weinidogaethol. Am ei tharddiad neu ei sefydliad cyntaf yn yr eglwys Gristionogol, gellir dweyd fel Paul am yr efengyl, "nadywhi ddynol," nad cynllun dynion ydyw; ond ei bod yn ol dadguddiad a thrwy osodiad Iesu Grist. Mae hyn mor eglur yn y Testament Newydd fel nad oes angenrheidrwydd am brofion i'w ategu. Oblegyd hyn gelwir gweini- dogion y gair yn weision Crist, yn gwasanaethu i'w saint ar y ddaear. Iddo Ef hefyd y maent yn gyfrifol am y cyflawniad o'u swydd. Mae trefn a chyfansodäiad eglwys Gristionogoli'w gweled yn ysgrifeniadau yr Apostolion a llyfr yr Actau, fel nad y'm gwedi ein gadael i betruso dim am ddwyfol osodiad y swydd weinidogaethol. Pa le bynag y cyfarfyddwn ag eglwys yn y Testament Newydd, cawn ryw grybwylliad am ei swydd- ogion. Eglwys heb swyddogion nis gall fod yn un drefnus a rheolaidd. Gofalai yr Apostolion am swyddogaeth yr eglwysi a sefydlid ganddynt. Cawn Paul yn gadael Titus yn Creta fel y byddai iddo osod pethau mewn trefn yn yr eglwysi oeddynt newydd gael eu corffoli, ac i osod henuriaid yn mhob dinas. Yr oedd yn angenrheidiol i gyfarwyddo yr eglwysi Cristionogol ar y cyntaf fel hyny, gan nad oedd ganddynt reolau ysgrifen- edig, fel sydd genym ni. I'r un dyben hefyd yr arosasai Timotheus yn Asia. Pan yr anfonodd yr Apostol at henuriaid Ephesus i'w gyfarfod yn Miletus, anerchai hwynt gyda dwysder mawr ar bwysigrwydd eu swydd—"Edrychwch gan hyny arnoch eich hunain, ac ar yr holl braidd ar yr hwn y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn olynwyr i fugeilio Eglwys Dduw yr hon a bwrcasodd Efe â'i briod waed." Dangosai Paul yn y geiriau hyn ei ofal pryderus am leshâd a Uwyddiant yr eglwysi; a bod %ny yn dibynu yn fawr ar ffyddlondeb eu gweinidogion. Mae y swydd weinidogaethol i ^arhau hefyd yn yr eglwys Gristionogol. Mae pob rheswm oedd dros ei dechreuad, yn aros dros ei pharhad. Mae yr un cyffelyb waith eisieu ei gyflawni; yr un cyffelyb d^niöa • '~ • 25