Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. AWST, WL mmx $fax jgìrag ŵpír |iîtk SEFYLLFA DDYFODOL. Ganwyd Joseph Butler yn Wantage, yn swydd Berk, ar y 18fed o Fai, 1692. Cafodd ei addysg foreuol yn ei ardal enedigol dan ofal y Parch. Phillip Barton. Yr oedd ei dad yn aelod gyda y Presbyteriaid, a chan ei fod yn gweled y fath dalent i ddysgu yn ei fab penderfynodd ei ddwyn i fyny i'r weinidogaeth yn mysg y Presbyteriaid ; a chyda golwg ar hyny anfonodd ef i'r Athrofa yn Nghaerloyw, (yr hon sydd yn bresenol yn Aberhonddu), athraw yr hon y pryd hwnw oedd Mr. S. Jones. Trodd Butler ei feddwl tra yn ieuanc iawn at Dduwinyddiaeth ac Athroniaeth Peddyliol. Dangosodd allu neillduol pan nad oedd ond 21ain oed yn ei ohebiaeth â Dr. S. Clarke ar y Uyfr oedd y Dr. newydd gyhoeddi a elwid " Demonstrations of the Being and Attributes of God." Yn fuan wedi hyny ymadawodd Butler a'r Ymneillduwyr ac aeth drosodd i'r Eglwys Wladol; ac aeth i Bydychain i orphen ei addysg. Ar ei ymadawiad a'r Athrofa yn 1718, cafodd ei sefydlu yn bregethwr yn y üolts Court, Llun- dain. Ẃedi hyny yn 1721 symudodd i Houghton; a thrachefn yn 1725 cafodd fywioliaeth Stanhope, Ue y bu am saith mlynedd. Yr oedd yr adeg hono yn llafurio yn galed wrth ei " Analogy" yrhwn a gyhoeddwyd gyntaf yn 1736, wedi i Butler fod yn myfyrio arno am 20 mlynedd. Yr oedd gelynion chwerw i Gristionogaeth yn byw yr adeg hono, megys Tindal, Woolston, a Collins. Ysgrifenodd Tindal yn erbyn yr angen am Ddadguddiad, Woolston yn erbyn y Gwyrthtau, a Collins yn e'rbyn Pro- ŷwydoliaeth, Cyhoeddwyd llu o gyfrolau yn atebiad iddynt, ac yn eu mysg yr tl Analogy." Pasiodd y llyfr drwy bedwar argraffiad yn ystod bywyd yr awdwr. Yn 1738 cafodd Butler ei wneud yn esgob Caerodor; ac yn 1750 yn esgob Durham, ond ni chafodd fwynhau yr esgobaeth hono yn hir, canys bu farw yn 1752, yn Bath, yn 60 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn eglwys gadeiriol Caerodor. Cyhoeddodd Butler bymtheg o breg- ethau gorchestol ar Athroniaeth Poesol, y rhai a draddodasai pan yn y Rotts Court; ond ei brif waith yw ei " Analogy," yr hwn oedd yn fwy nag ateb i bob peth a ddywedid yn erbyn Cristionogaeth yn ei oes ef, ac a erys yn gofgolofn o allu meddyliol braidd anghymharol. Cyfenwad yr tlAnalogy" yn llawn wedi ei Gymreigioyw, " Cyfatebiaeth Crefydd, Naturiol a Dadguddiedig, i Gyfansoddiad a Chwrs Natur.'' Fy amcan yn y llythyrau a fwriadaf ysgrifenu fydd rhoddi math o drychwaliad poblogaidd, ac nid oyfieithad, o'r llyfr i ddarllenwyr y DrwYGiwn. 29