Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. TACHWEDD, 1872. IHSTDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG. Cymaliwyd Cyfarfodydd cyntaf yr Undeb yn Addoldy Heol Awst, Caer- fyrddin, Medi 3ydd, 4ydd, a'r 5ed, 1872. Cadeirydd—Y Parch. WILLIAM REES, D.D., Liverpool. Trysorydd—THOMAS WILLIAMS, Ysw., Goitre Merthyr. Ysgrifenyddio* l Y Pabch- J0SIAH J0NES» Machynlleth. YsGRiFENyDDioN J Y Pabch TH0MAS J0HNS, Llanelli. %mt^ìtò % ẅtògìẁ* [Dyledus yw hysbysu darlíenwyr yr Anerchiad hwn nad oeddynt yn bresenol yn y cyíarfod yn Nghaerfyrddin, ddarfod gadael allan yma ranau o'r hyn a draddodwyd yno, er mwyn dwyn i mewn bethau ereill a fernid yn fwy pwrpasol i amcan arbenig yr Anerchiad, y rhai y bu raid eu gadael allan yn y traddodiad o herwydd na chaniatäi yr amser. Helaethir hefyd ar rai pethau na ellid ond eu braidd gyffwrdd o'r Gadair. Dichon yr ymddengys traethawd helaethach ar y mater cyn hir yn y Beimiad.l Wyr, Frodyr,—Gran mai chwychwi a'm dewisasoch i weinidogaeth swydd cadeirydd y cyfarfod pwysig hwn, hyderaf y bydd i chwi yn ol anogaeth yr apostol, ychwanegu at yr amynedd i oddef, y caredigrwydd brawdol i esgusodi llawer o ddififygion a welwch yn y cyflawniad o ddyled- swydd y swydd. Yr wyf yn sefyll ger eich bron y bore hwn, yn mhrofiad yr apostol yn Corinti gynt, i raddau «*mewn gwendid ac ofn," ond nid "mewn dychryn mawr" chwaith. Nid eich ofh chwi yn gymaint, canys fy mrodyr ydych, ond y mae arnaf om gwendid a llesgedd fy natur—ofn cynyg darllen yr hyn a barotoais, canys ni ddysgais gerdded yn y rhwymyn hwnw; ac o'r tu arall, ofn palliant cof, canys yr wyf yn profi ei fod erbyn hyn wedi gwanhau llawer mewn cymhariaeth i'r hyn a fu; ac heblaw hyny, y mae arnaf ofh fy nhestyn, rhag yr ymddengys ef i chwi fel yr un mwyaf anmhwrpasol i'r amgylchiad a allesid meddwl am dano. Yn wir, ymddangosai felly i mi fy hun, ond rywfodd disgynodd fy meddWl arno, ac nis gallaswn yn hawdd ymryddhau oddiwrtho. Y testyn yw