Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIẂR. MAWRTH, 1874. tëfoertó p ëfyífliû «gifoŵtal GAN Y PABOH. D. DAYIES, CASNEWYDD. Actau xvii. 16.—"A thra yr ydoedd Paul yn aros am danynt'yn'Athen, ei ysbryd a gynhyrf- wyd ynddo wrth weled y ddinas wedi ymroi i eilunod." Gwelwch yn rhwydd mai y ddinas a olyga y testyn yw Athen, ond y dref neu'r ddinas wyf fi yn olygu yw tref Casnewydd-ar-Wysg, yn nghyd â threfydd ereill yn ein teyrnas sydd wedi bod yn euog o'r fath derfysgoedd ac aflywodraeth gwarthus yn nglŷn â'r etholiad diweddaf. Wrth weled dinas Athen wedi ymroi i eilunod, fe gynhyrfwyd ysbryd mawr Paul; fe'i cynhyrfwyd nid i ddialedd—nid i ddymuno am i dân ddyfod i lawr o'r nef i'w Uosgi, fel y gwnaeth Iago ac Ioan pan oedd y Samariaid yn gwrthod derbyn eu Harglwydd—ond fe'i cynhyrfwyd ef i geisio eu gwella, ac i ddarbwyllo yr Atheniaid i daflu eu heilunod mudion i'r wadd a'r ystlum- od, ac i dderbyn y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo—y Duw a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion i breswylio ar holl wyneb y ddaear. Fe ddarfu i gyflwr eilunaddolgar dinas Athen gynhyrfu ysbryd yr apostol i'r fath raddau, fel yr ymresymodd â'r Iuddewon beunydd yn y synagog, ac yn y farchnad beunydd â'r rhai a gyfarfyddent ag ef. Yr oedd sefyllfa druenus y ddinas wedi cael y fath ddylanwad ar ei ysbryd, fel yr oedd braidd yn debyg i ambell ddyn dan ddylanwad y ddiod feddwol ^•ni chaiff neb lonydd gydag ef, mae yn siarad â phawb gyfarfydda. Dyna fel yr oedd Paul yn Athen, ni adawai efe i'r un dyn na dynes fyned heibio heb ddyweyd wrthỳnt y fath ynfydrwydd oedd fod dynion call a dysgedig fel hwy yn addoli y fath dduwiau gwael, ac yn esgeuluso y Duw oeddynt ynddo yn byw, yn sỳmud, ac yn bod. Yr ydymjni yn ddiweddar wedi gorfod edrych ar waeth golygfa yn y dref hon na'r un a welodd ao a gynhyrfodd ysbryd Paul yn Athen. Yr ydym wedi gorfod edrych ar ddynion sydd wedi eu dwyn i fyny mewn gwlad Gristionogol, dynion gyfrifir yn Brotestaniaid, dynion broffesant barch i ddyn os nad ofn Duw, yr ydym wedi gweled dynion o'r fath hyn yn herio yr awdurdodau gwladol, yn ysbeilio y maer o'i oriawr, ýn -tori tai, siopau, addoldai; yn dinystrio yn fwríadol werth canoedd o bunau o feddianau, ac yn gosod bywyd a chysur y preswylwyr mewn perygl. Dyma olygfa waeth, mwy truenus o lawer, meddaf, na'r un welodd Paul jn Athen.