Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. JACHWËDDn^ GAN Y PARCH. D. LEWIS, LLANELLI. Amrywia dynion yn fawr yn eu barn mewn perthynas i'r hyn a ystyrir ganddynt yn brif ddaioni bywyd. Pe cymerem ein safle ar gongl rhyw brif-ffordd er gwylied y llifeiriant pobloedd yn myned heibio, a phe cymer- em ein rhyddid i ofyn i'r naill a'r llall o honynt, pa betti, yn ol eu barn hwy, yw daioni penaf a mwyaf chwenychadwy bywyd, tybiem y byddaiyr atebion a dderbyniem yn dra gwahanol. Atebai y blysiog mai mwynhad cyfiawn a didòr o bob math o flysiau a chwantau cnawdol yw. Atebai y bydolddyn mai meddiant^icr o gyflawnder diderfyn o arian ac aur yw. Atebai yr uchelgeisiol mai anrhydedd yw. Atebai yr ysgolor mai gwybod- aeth yw. Ond atebai y doeth gyda phenderfyniad ansigledig mai cymer- iad da yw. Pe y gosodid pleserau, cyfoeth, anrhydedd, a gwybodaeth y byd yn urí pen i'r glorian, a chymeriad da yn y pen arall, gorbwysai cymeriad yr oll yn ddigon rhwydd. "Mwy dymunol yw enw da (h.y., cymeriad da) na chyfoeth lawer.'' Pe byddai tywod y môr yn llwch aur, a meini yr afonydd yn daìpiau o arian, y mae cymeriad da yn fwy chwenyehadwjrtna'r cyfan. Gelwir ef gan un awdwr gyda phriodoldeb mawr yn gorou bywyd. Dyma ydoedd prif ragoriaeth y ddynoliaeth yn ei ystad o ddini-weidrwydd. Yr oedd Adda yn brydferthach eilun na'r un creadur a'i cylchynai, yr oedd ei awdurdod yn eangach, a ffynonellau ei ddedwyddwch yn fwy lluosog. Ond pan ddy wedir iddo gael ei greu ar ddelw Duw, y mae yr ymadrodd yn golygu ei fod yn gyfranog o ddelw foesol Duw. Fel y mae delw yrhaul yn cael ei hadlewyrchu yn nyfroedd y llyn llonydd ac yn y gwlithyn gloew sydd yn llanw costrel y blodeuyn, felly yr oedd delw y Creawdwr yn cael ei hadlewyrchu yn nghymeriad ein rhieni cyntaf. Yr oedd harddwch tragywyddol y Duwdod yn eu pryd- ferthu hwy. Ond pan anufyddhaodd dyn, tywylloddyr aur coeth, a syrth- iodd y goron oddiar ei ben. Ond adferir eto gan ras yr hyn a anmhar- wyd unwaith mor greulon gan bechod. Ffurfìo cymeriad yw prif ddyben bywyd. Syniad llawer, efallai y mwy- afrif, yw, mai prif ddyben bywyd yw cyrhaedd hyny o ddedwyddwch ag sydd bosibl. Y mae y Creawdwr fel Bôd perffaith dda, a llawn cy- mwynasgarwch, yn ewyllysio dedwyddwch ei greaduriaid, ac y maemewn natur a rhagluniaeth wedi eu cylchynu ag elfenau dedwyddwch. Y mae sibrydiad yr awel, murmur yr afon, prydferthwch y blodeuyn, a chân yr aderyn, oll yn cyfranu mwynhad. Er mai dedwyddwch y mae y mwyafrif 41