Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. IONAWR, 1878. GA.N Y PARCH. T. PENRITH PHILLIPS, HOREB, LLANDYST7L. " Yr Arglwydd abarotôdd ei orseddfa yn y nefoedd: a'i freniníaeth ef sydd yn llywodraethu ar bob peth."—Salm ciii. 19. Salm o fawl gorfoleddus am ddoniau amryw a gwerthfawr Duw yw y Salm hon. Mae Duw yn costrelu dagrau y saint, a dylai y saint gofnodi trugareddau Duw. " Yr Arglwydd a barotôdd ei orseddfa,'' &c. Y mae yr orsedd yn arwyddo awdurdod breninol. Dywedir am yr Arglwydd mai " y nef yw ei orseddfainc, a'r ddaear yw lleithig ei draed." Mae yr ym- adrodd, " A barotôdd ei orseddfa," &c, yn awgrymu ei lywodraeth ar bob peth, ac yn dangos fod ei lywodraeth gyífredinol yn sicrwydd o'i ffyddlondeb i'w addewidion. I. Y ffaith o ddwyol Eagluniaeth.—" Yr Arglwydd a barotôdd ei orseddfa yn y nefoedd," &c. Beth yw dwyfol Bhagluniaeth ? 1. Nidfod Duw ynparhau i greuyw. Creadigaeth yw galw i ìod yr hyn na fodolai o'r blaen, a chynaliaeth ydyw parhau mewn bod yr hyn oedd ynbarod. Yn y naill canfyddwn ail-achosion, yn y llall Duw yn annibynol ar bob peth. Y mae y dybiaeth o fod Duw yn creu ar bob moment yn dinystrio pob prawf o fodolaeth byd allanol, ond yn unig yn ein dychymyg. Ac y mae yn wadiad o fodolaeth ail-achosion, fel y gellir priodoli pechod i Dduw yn gystal â santeiddrwydd, ac o ganlyniad, yn dinystriopob cyfrif- oldeb mewn dyn. Grwelwn felly fod creu a chynal yn wahaniaethol, er yn agos gysylltiedig â'u gilydd—y naill yn weithrediad gwreiddiol o Holl- alluawgrwydd Duw, a'r llall yn weithred barhaol o'i ffyddlondeb. 2. Nidŷawdnathyngedyw. Mae ffawd a thynged yn dysgu y cymer pob peth le yn anocheladwy o angenrheidrwydd natur. Ehaid i bob peth fod fel y mae. Dadblygai ei hun fel ser-ddewiniaeth yn mhlith y Caldeaid, Philosophyddiaeth yn mhlith y Grroegiaid, a Pantheism y dydd- iau presenol. Y mae anghrediniaeth yn siarad am ffawd ddall, ond y maeffydd yn cyffesu, "Nad oes dim trwy ddamwain, na dim heb amean.', 3. Nid dylanwadau grasol yr Ysbryd Glânyw. Grwahaniaethir yn y Beibl rhwng goruchwyliaeth ragluniaethol Duw a gweithrediadau ei ras ^ ar galonau dynion. Mae y naill yn naturiol, a'r llall yn oruwchnaturiol. Yn ngweithrediadau cyffredin rhydd-weithroiwyr y mae y gallu i'w