Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. I, 1878. 6ẁgrlpttt GAN Y PARCH. D. M. GEORGE, HERMON. I iwuuuuuuu «11, uoui^c y uicgcui gauirnui ai gnio v/i uauicuu y \^yj.ariuu vuwarteroi, yr hwn a gynaliwyd yn Llanedi, Hydref 21ara a'r 22ain, 1877; dymunwyd arno hefyd ei hanfon i'r Diwygiwr. Yr ydym ninau yn ddiolchgar iddo am dani, ac yn dymuno gâlw sylw ein darllenwyr ati.—-Goi..] xx. 30, 31. Gosodir y gwyrthiau allan dan bedwar o wahanol enwau, sef Nerthoedd, Arwyddion, Rhyfeddodau, a Gweithredoedd. Gelwir hwynt yn nerthoedd, neu weithredoedd nerthol, am eu bod yn aoilygiadau o nerth a gallu goruwchnaturiol, ac hefyd yn herwydd yr effeithiau grymus oedd yn eu canlyn ar eu deiliaid ac ereill. Arwyddion i ddangos eu dyben, sef profi dwyfol anfoniad, neu awdurdod yr hwn a'u cyflawnai, neu ddwyfol awdurdod y genadwri a gariai, neu yr athrawiaeth a ddysgai. Rhyfedd- odau i ddangos eu hynodrwydd, yn nghyd â'u heffeithiau ar feddyliau yr edrychwyr, sef peri iddynt synu a rhyfeddu—" Hyd oni synodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, ni welsom ni erioed fel hyn." " A hwy a synasant ynddynt eu hunain yn fwy o lawer, ac a ryfeddasant." Geilw Crist hwynt yn weithredoedd—" Oni bai wneuthur o honof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasai arnynt bechod "—er dangos mor rhwydd a naturiol oedd i'r Iesu iV cyflawni. Os oeddynt uwchlaw gallu yr edrychwyr, nes peri iddynt synu a rhyfeddu, nid oeddynt ond cynifer o arwyddion o ddwyfoldeb person y Gweithredydd, i'r hwn yr oedd pob peth yn bosibl ac yn hawdd, a'i fod o ddwyfol anfoniad, a dwyfol awdurdod ei genadwri. Gwnaeth yr Iesu ei ymddangosiad gyda'r honiad ei fod wedi dyfod allan oddiwrth Dduw, ac â chenadwri ddwyfol ganddo. Ond ni wnai honiadau yn unig y tro. Rhaid oedd cael profìon digonol, a ehred-lythyrau boddhaol ei fod felly. Fel Moses, pan yn cael ei anfon gan Dduw i'r Aifft, teimlai nad oedd cario ceDadwri Duw yn ddigon, heb ryw brofìon i ddangos ei fod yn anfonedig yr Arglwydd. Mewn canlyniad, y mae yn cael arwyddion digonol i sicrhau ei fod o ddwyfol anfoniad. ^eìly befyd yr oedd eisieu rhywbeth cyffelyb i fod yn gred-lythyrau i'r lesu, ac y maent i'w oael—" Ha! wyr Israel, clywch y geiriau hyn: Iesu* 17