Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. HYDREF, 1878. GAN Y PARCH. J. FOTTLEES, TYDDEWI. Nid anmlirioâol, efullai, cyn dangos perthynas Shakespeare a'r Beibl, yw rhoddi ychydig o hanes ei fy wyd, oblegyd y mae bywgrafnadau meibion athrylith yn ddyddorol ac adeiladol. Oddeutu y flwyddyn 1550, preswyliai boneddwr cyfoethog ac urddasol yn Wellingcote, swydd Warwick, o'r enw Eobert Arden, neu Arderne, ac iddo fereh o'r enw Mary. Yn Snitterfìeld, yn yr un swydd, preswyliai tir-ddeiliad iddo o'r enw Eichard Shakespeare, ac iddo fab o'r enw John. Y Mary a'r John a enwyd oedd- ynt rieni yr anfarwol William Shakespeare. Mae cryn wahaniaeth barn yn mhlith bywgraffwyr y bardd am alwedigaeth ei dad. Dywed rhai mai menygwr ydoedd, ereill mai coed-fasnachydd, ereill mai cigydd, ac ereill mai gwlau-fasnachydd. Tebygol iddo roddi prawf am dymhor ar yr amryw- iol alwedigaethau hyn, ac nad ydoedd yn liwyddianus yn yr un o honynt. Ond, rywfodd, enillodd serch y foneddiges, Mary Arden, arhwymwyd hwy mewn glân briodas yn y flwyddyn 1557. Bedyddiwyd eu plentyn cyntaf, Joan, yn eglwys Stratford-upon-Avon, Medi 15fed, 1558. Prynodd John Shakespeare ddau dy bychan yn Stratford, yn Henley-street, ac yn un o'r tai dinod hyn ganwyd iddynt ddwy ferch, Joan a Margaret,^y rhai a fuant farw yn eu babandod. Yma heiyd y ganwyd William Shokespeare, Ebrill 23ain, 1564, yr hwn trwy nerth ei athrylith farddonol, a anfarwolodd y ty distadl yn Henley-street. Mae yr hendy yn aros, acedrychir arno, a gofelir am dano, fel mangre gysegredig lle y ganwyd tywysog y beirdd. Geir y cofrestriad canlynol o'i fedydd yn eglwys Stratford|:-— '• 1564, April 26íA, Gulieîmus JHius Jbhannes ShaJcespeare." Pan oedd yn ddau fis oed, torodd pla dinystriol allan yn y dref, a pharhaodd i ysgubo ymaith y trigolion o Mehefin hyd Ehagfyr, ond arbedwyd bywyd William'Shakespeare a'i rieni. Pan yn ddwy flwydd oed ganwyd ei írawd, Gilbert, yr hwn afedyddiwyd Hj'dref 13eg, 1566. Ganwyd ei chwaer, Joan, Ebrill 15fed, 156^. Cyn ei fod yn saith mlwydd oed ganwyd chwaer arall, yr hon a enwyd, Anne, aQ a íedyddiwyd Medi 28aiu, 1571. Pan oedd yn naw mlwydd oed gänwyd ei frawd, Eichard, yr hwn a fedyddiwyd Mawrth lleg, 1573. Fel yr oedd teulu John Shakesrjeare yn cynyddu, ymddengys fod ei gyfoeth a l anrhydedd yn ychwanegu. Etholwyd ef yn un o ynadoh Stratford. Yn 37