Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. MEHEFIN, 1879. Iprtjr ŵgfwtaijj. GAN Y PABCH. J, BVANS (IBUAN AFAN), SARDIS. Wrth wybodaeth yr ydym yn deall adnabyddiaeth gywir o natur ac an- sawdd gwahanol fodau a phethau o fewn cylch dirnadaeth ac amgyffred- iad y meddwl, ac yn neillduol ymwybyddiaeth o'r ffeithiau, y deddfau, a'r gwirioneddau sydd yn gorwedd yn guddiedig yn ei ddyfnderoedd ei hun. Ffrwyth ymchwiliaeth fanwl, a chynyrch ymdrechion y deall ydyw. Yua y mae yn canlyn y dichon dyn fod yn feddianol ar alluoedd cryfìon, meddwl mawr fel Newton, ac eto heb feddu ond gwybodaeth brin iawn yn ngwir ystyr y gair. Beth bynag y gallu a'r dalent, os na wrteithir hwy drwy foddion priodol, ni byddant ddim amgen na thalent wedi ei chuddio yn y ddaear. Dim dyben yn marchnad meddyliau yr oes, lle y cyfnewidir nwyddau goruchel meddyleg y byd. Y mae pob gallu a cbyneddf ddynol yn ymgryfhau drwy ymarferiad—cynyddu mewn gwaith. Y mae elfenau yn marw o eisieu ymarferiad, a llawer bywyd yn dihoeni o eisieu cynaliaeth. Peth i'w feddu—i gymeryd gafael ynddo —i'w sicr feddianu drwy ymdrech a dyfalbarhad yw gwybodaeth. Nid oes neb yn feddianol arno yn wreiddiol—yn ei ddyfodiad i'r byd. Nid oes un Kepler, Lock, na B^con, wedi ei eni yn athronydd ; un Galileo, Newton, na Herschell yn serydd; un Homer, Milton, na Shakespeare yn fardd ; un Handel, Mozart, na Haydn yn gerddor ; ond hollol amddifad o wybodaeth wrth natur. Araf y daw y plentyn galluocaf i ddywedyd " mam." Gwyddom yr hona ambell gymeriad sydd ar ei ben ei hun yn y byd eang ei fod yn naturiol gerddor neu fardd, ac un neu ddau mewn oes yn honi nad oeddent eriood wedi dysgu elfenau cynghanedd gerddorol, na rheolau neillduol offer cerdd. Hwyrach y gallem dderbyn y syniad yn well pe yn byw yn oes y gwyrthiau. Addefwn yn rhwydd f'od athrylith naturiol yn myned yn dawel a diflino ar hyd ei phrif linellau, eto y mae yn rhaid ymarfer â holl elfenau gwybodaethau y byd, a'r ymdrechwyr sydd yn ei " chipio hi.'' Ond lle y mae athrylith naturiol rymus, a phenderfyniad i gyfeirio gallu- oedd y meddwl at ei brif nod, yr hyn sydd yn hanfodol er llwyddiant, gwneir pethau mawrion mewn ychydig o flynyddau o ymdrech. Y mae yn anmhosibl cyrhaedd enwogrwydd mawr, drwy gyrhaedd gwybodaeth tmg a manwl, heb ymroddiad a dyfalbarhad. Eto dylai fod darpariaeth 21