Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

MEDI, 1883- ŵgfiafimjtó ìrẃg ffîtätyẁtiâẁ. GAN Y PARCH. D. EYANS, CAERFYRDDIN. " Chwi a welwch, gan hyny, mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig."—Iago ii. 24. Ysgrifenir a phregethir Uawer ar gyfiawnhad drwy ffydd heb weithred- oedd, ond ychydig bregethir nac a ysgrifenir ar gyfiawnhad drwy weithred- oedd. Yn wir, gesyd dyn ei hunan mewn perygl o gael ei amheu yn iach- usrwydd ei gredo, gan " geidwaid yr athrawiaeth," wrth gymeryd i fyny bwnc fel hyn i draethu arno. Dymunwn i'n darllenydd beidio gosod barn ehud arnom, wrth edrych yn unig ar benawd ein hysgrif; yn hytrach, dilyned ni yn bwyllog drwyddi, a hyderwn allu llwyddo i ddangos iddo fod ein hathrawiaeth yn wirionedd amlwg a chysurlawn yn rhedeg drwy yr oll o'r ysgrythyrau. Ceir yr apostol Iago nid yn unig yn gyson â rhanau ymarferol yr epistolau at y Ehufeiniaid a'r Galatiaid, ond hefyd yn gyson â rhanau athrawiaethol y cyfryw. Yr un mater sydd gan Paul a Iago, er nad yr un agweddau, " yr un gyftelyb werthfawr ffydd " sydd gan y ddau, . ond eu bod yn edrych arni o gyfeiriadau gwahanol, a hyny am y rheswm fod ganddynt ddosbarthiadau gwahanol o ddynion i ymwneud â hwy. Heb i ni yn awr ymdroi i fyned ar ol y gwahaniaethau yn nullweddau y ddau apostol o drafod yr un athrawiaeth, ni a ymdrechwn, yn hytrach, i brofi y cysondeb rhwng cyfiawnhad gan Paul a chyfiawnhad gan Iago. Yr hen ddull o geisio cysoni y ddau apostol sydd rywbeth yn debyg i hyn :—-Fod Paul yn cyfeirio at gyfia^ nhad pechadur gyda Duw, a Iago ei gyfiawnhad gyda dynion ; Paul yn cymeryd y weithred o gyfìawnhau yn ei dirgelwch, a Iago ei phrofion allanol gerbron dynion; Paul yn cymeryd i fyny gyf- iawnhad y cyýior gyda Duw, a Iago y cymeriad gyda dynion. Credwn fod gwell, mwy efengylaidd a thecach ffordd o'u cysoni. Ymddengys i ni mai cyfiawnhad drwy weithredoedd gerbron Duw yn fwy na cherbron dyn- ion sydd gan Iago. Onid yw yr enghraifft a esyd efe i lawr am Abraham yn profi hyny î Nid cydoeswyr Abraham a'u cyfiawnhaodd ef yn y weith- red; buasent hwy yn hytrach yn ei gondemnio—nid oeddynt hwy yn gweled ond y weithred noeth, ond yr oedd Duw yn gweled yr egwyddor- ion—yr ufydd-dod ysbryd, a'r amcan, í'el y derbyniodd Abraham ÿ 41