Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CHWEFROR, 1884. gŵgbbfrjrìr g êtmìrnt. ÖAN Y PARCH J. BAEROW PARRY, LLANSAMLBT. Yr unig enghraifít ydym yn ei gael o un Apostol yn beirniadu ysgrifen- iadau Apostol arall ydyw hono, yn mha un y mae Pedr yn dyweyd fod yn llythyrau ei " anwyl frawd Paul ryw bethau anhawdd eu deall." Ni ryf- eddem nad y pamgraph rhyfedd a godidog yn Rhuf. viii. 19—23, oedd o flaen meddwl Pedr ar y pryd. Credwn, pa fodd bynag, fod ymadroddion cyfrin a barddonol Paul yn dod yn haws eu deall yn barhaus; mae ym- chwiliadau meddwl dyn i weithredoedd Duw, a'i ddarganfyddiadau mewn natur, yn enwedig yn y cyfnodau diweddaf, yn rhoddi help dirfawr i'r myfyriwr Ysgrythyrol i ddirnad meddwl, ac i yrngodi i gyfranogiad o syn- iadau a gobeithion yr Apostol, o barthed i ddyfodol y greadigaeth. Dy- fynwn ei eiriau yma, a ehymerwn ein hyfder i arall-eirio, ac i ychwanegu ychydig atynt, pan y gweíom hyny yn fuddiol, i wneud y meddwl yn fwy eglur. Er mwyn deall yr ymresymiad, dechreuwn yn y 18fed adnod:— " Oblegyd yr ydwyf yn cyfrif fod y gogoniant sydd yn aros etifeddion Duw —y gogoniant a welir arnynt pan y'n cydogonedder â Christ, mor fawr a rhagoroi, fel nad ydyw yn werth crybwyll, yn ei ymyl, y dyoddefiadau yr ydym yn awr yn myned trwyddynt; canys yr wyf yn gweled gogonedd- iad pob peth wedi ei gylymu wrth y gogoniant sydd yn nghadw i ni : y mae awyddfryd natur drwyddi draw ya dysgwyl am ddadguddiad meibion Duw. (Canys y mae y byd materol wedi ei ddarostwng, fel ninau, i oferedd. Mae y felldith ddygodd pechod arnom ni wedi ei gyr- haedd yntau. Nid oedd dim ynddo ef yn wreiddiol yn galw am hyny; yn ein herwydd ni y dygwyd yr annhrefn arno, am hyny, dros dymhor yr erys yn y caethiwed, rhaid iddo gael ei godi gyda'i hwn a'i darostyngodd ef, i fwynhad o'r un rhyddid gogoneddus ag yntau.) Ond hyn o«ddwn yn ei ddyweyd—yr ydym yn canfod fod hoil natur o'r dechreuad hyd y pryd hwn yn cydocheneidio ac yn cydofidio am ddyfodiad awr ei hym- wared. Ac nid yn unig y mae hi ícily, ond ninau hefyd, y rhai sydd genym flaenfí'rwyth yr Ysbryd—yn gyffelyb i fel y mae hi yn dyheu am ei hadnewyddiad, yr ydym ninau ein hunain yn ochcneidioynom einhunain, gan ddysgwyl am y dydd hwnw, yn mha un y gv. neir arddangosiad gy- hoeddus o'n mabwysiad, trwy adgyfodiad y corffo'r bedd.'' Nid damcan- iaeth a gyfleir yn ngenau yr Apostol, ond dadgudüad. Nid oddiar saf- bwynt y daearegydd na'r athronydd y llefara, ond o.ìdiar safbwynt proffwyd