Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

RHAGFYR, 1884. ir p fci g §Ifejj' fâttütd ar §m gr $es& GAN Y PARCH. W, JANSEN DAVIES, OLECEHEATON. [Traddodwyd y Bregeth ganlynol yn Nghapel y Park, Llanelli, ar adeg ymweliad yr Undeb Cynulleidfaol â'r dref, ar y 30ain o Orphenaf, 1884; ac ar gais llawer o'r rhai a gawsant y fraint o'i gwrandaw y cyhoeddir hi yn y Diwygiwr. Er ei bod braidd yn hir gwyddom y bj'dd ya well gan ein darllenwyr ei chael yn yr un Rhifyn na'i rhanu rhwng dau. Yn Seisnig y traddodwyd hi. Da genym fod yr awdwr yn cofio ei Gymraeg, er wedi ymdaith am flynyddoedd yn mhlith y Seison.—Gol.] " Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynag y pregether yr Efengyl hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffa am dani."—Marc xiv. 9. "Os caf yn unig gyffwrdd â'i wisg ef, iach fyddaf," meddai y wraig fuasai gwaedlif arni ddeuddeg mlynedd yn nghylch yr Iesu. Gellir dy weyd mwy; pwy bynag ddaw i gysylltiad â'r Gwaredwr, gwneir ef yn anfarwol. Fel y mae peiriant trydanol yn llanw pob un a'i cyffyrddo â'i elfeD ei hun, felly y mae'r Iesu yn Uwytho y rhai a ddeuant i gysylltiad agos ag Ef â'r anfarwoldeb sydd yn byw ac yn bod yn dragywyddol yn ei Berson ei hun. Gall Bethlehem, tir Juda, fod y lleiaf yn mhlith tywysogion Juda—gwr- eichionen o bentref i'w diffodd yn fuan gan donau môr ebargofiant; ond deued unwaith i gysylltiad â Christ, ac y mae yn anfarwol. Nid oedd Calfaria ond lle y benglog—beddrod dystaw carcharorion angeu; ond cyff- yrdded troed bywiol Iesu â'r fangre, cerdded yr Adgyfodiad a'r Bywyd yn mhlith y meirw, ac y mae'r ysmotyn dinod wedi ei wisgo â manteÜ clod diddiwedd. Y mae morwyn dlawd oedd yn amgylchynedig gao gymylau amheuaeth du, yn cael yr anrhydedd o roddi genedigaeth i'r Iesu; ac â gwynt grymus y nefoodd chwelir yr holl gymylau, pelydra heulwen dysg- laer ar ei chymeriad, a'r holl genedlaethau a'i geilw yn fendigedig. Y mae Zaccheus mor fychan nes ymgolli o'r golwg yn rhuthr y dorf; y mae y plant bychain mor ddibwys fel y mae y dysg>ulion yn eu dibrisio; y mae y ddwy hatling mor ysgafn fel na chîy wir eu swn wrth ddisgyn i?r drysor- fa gan y byd; ond gan i'r rhai hyn ädod i gysylltiad â Chnst, hongiwyd hwy wrth udgorn yr Efengyl, ac nid oes iaith nac ymadrodd lle ni chlywir eu Ueferydd hwynt. Ac yn mhlith y Uuaws a anfarwolwyd gan gyffyrddiad fi Christ, nid y lleiaf y mhlith y liu ydywMair o Bethania. Y mae brwydrau mawr a chyfnewidiadau gwleidyddol pwysig wedi eu hebargofi; y mae äinas- oedd tywysogaidd a phersonau breninol lífÂi eyrthio i diranghof; onà f § 56