Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

MEHEFIN, 1885. PEEGETH ANGLADDOL Y PAECH. SIMON EVANS.* GAN Y PARCH. J. THOMAS, D.D., LWERPOOL, " Meddyliwch am eich blaenoria'ul, y rhai a draethasant i chwi air Duw; ffydd y rhai diljmwch, gan ystyried diwedd eu l>jTmarweddiad hwy. Iesu Grist, ddoe a hcd'dyw yr un, ac yn dragywydd."—IIiciuihaid xni. 7, 8. * Traddodwyd sylwedd y bregeth uchod yn Hebron, Ebrill 21ain, 1885, jTn angladd ty hoffus gyfaill, y Parch. Simon Evans. Amlygodd rhai cyfeillion ar ol hynj- ddymuniad am ei chael i'r Dysgedyäd neu i'r Diwygiwiî, neu i bob un o'r ddau. Addewais, os cawswn hamdden, y gwnaethwn hynjT. Nid oeddwn wedi ysgrifenu llinell o honi pan y traddodais hi, ac oblegyu hyny, gwel y rhai a'i gwrandawodd ei bod yn gwahaniaethu cryn lawer o ran ffurf i'r hyn ydoedd pan y traddodwyd hi, heblaw ei bod yn helaethach, ond gwelir ar yr ua pryd mai yr un ydyw o ran sylwedd. Mac marwolaeth annysgwyliadwy fy anwyl gyfaill, Dr. Rees, yr hwn oedd jrn cydbregethu â mi yn yr angladd, wedi dwyshau yr amgylchiad i'm meddwl, a'r newydd diweddarach am farwolaeth fy nghyfaill siriol, y Parch. E. Stephen, Tanymarian,wcdi"fy mhruddeiddio yn fawr; ond ar yr un pryd, wedi gwneud diwedd y testyn jTn werthfawrocach jTn fjT ngolwg fel ffynonell cjrsur. Mae y testyn yn dwyn anghyfnewidioldeb Iesu Grist yn mlaen fel defnydd cysur wrth golli arweinwyr ffyddlon. Gwirionedd gogoneddus ydyw ynddo ei hun, yn annibynol ar y cysylltiadau y ceir ef ynddynt. Mae yn brawf diamheuol o Dduwdod yr Arglwydd Iesu Grist, oblegyd un o briodoliaethau yr Anfeidrol ydyw anghyfnewidioldeb. " Oanys myfi yr Arglwydd ni'm newidir." " Ac tydi, yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear, a gwaith dy ddwylaw di yw y nefoedd : hwynthwy a ddarfyddant, ond tydi sydd yn parhau, a hwynthwy oll fel dilledyn a heneiddiant, ac megys gwisg y plygi di hwynt, a hwy a newidir; ond tydi yr un ydwyt, a'th flyn- yddoedd ni phallant." Am Grist, yn ddiau, y mae yr Apostolyn dywedyd; ond nid profi Duwdod Orist oddiwrth ei anghyfnewidioldeb ydyw amcan uniongyrchol yr Apostol yma, er ei í'od yn gwneud hyny, ond dwyn y gwir- ionedd mawr hwnw yn mlaen fel ífynonell cysur a dyddanwch yn ngwyneb cyfnewidioldeb pob peth arall. Mae yn edrych arno felly mewn gwahanol gysylltiadau. 26