Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

MEDI, 1885. Ífop0ẃgìŵ 0 nèìri gŵìrp0 gewtaiìẁ i Mmt GAN Y PARCH. W. GILBEHT £VANS, COITY. Mae plentyn iV addysgu mewn gwahanol ffyrdd, as i amrywiol amcanion. Mae eisieu ei addysgu o ran ei goríF— o ran ei feddwl—ac o ran ei galon. Medrusrwydd celfyddydol i'w gorfl, gwyddoniaeth i'w ddeall, a chrefydd i'w galon. Dan ddau benawd yn benaf y dosrenir addysg yn ein dyddiau ni, sef Addysg Fydol ac Addysg Grefyddol; ond nid ydym ni yn bwriadu traethu ar y naill na'r llall o'r dosranau yna ar wahan yn yr ysgrif hon, eithr yn hytrach eu trin yn gyfunol a chyffredinol, yn ol eu perthynas ag addysg plant yn y teulu. Prif bwnc y dydd a phrif bwnc y wlad, prif bwnc yr eglwys a phrif bwnc y byd braidd y dyddiau hyn yw addysg y do ieuanc. A da genym ei fod wedi dyfod bellach yn brif bwnc am Gymru esgeulusedig. Rhodder iddi bob tegwch am y presenol, ac hyd y nod iawn am y camwri a gafodd yn y gorphenol. Gan fod y fath gri, ymdrech, ac ymladd yn nghylch Addysg Elfenol, Addysg Ganolraddol, ac Addysg Uwchraddol yn y cyfnod hwn o'n hoes, mae yn berygl anghofio ac esgeuluso yr addysg deuluaidd, tra mewn gwirionedd y mae cymaint, os nid mwy, o angen addysg yr aôlwyd ag erioed. Ceisio gosod allan yr angenrheidrwydd a'r pwysigrwydd o hyny yw ein hamcan ninau yn yr ysgrif hon, a da fuasai genym allu argraffu hyny yn ddwys ar feddwl y darllenydd. Mae hyn yn angenrheidiol am fod y plant sydd yn y teulu yn dyfod iddo ar y cyntaf yn hollol anhyddysg. Gellir dyweyd gyda phriodoldefc am ddyn, fel ag y dywedodd Sophar wrth Jorj—" Dyn gwag, er hyny a gjmer arno fod yn ddoeth; er geni dyn feì llwdn asen wyljt." Nid oes ryw lawer o hyddysgrwydd yn llwdn yr asen ddôf, ond llai byŴ jn eiddo yr asen wyllt. Gan mai felly y mae dyn yn cael ei eni i'r byd, rhaid ei fod yn neillduol o hurt a hwyrdrwm, aiiwybodus ac anfedrus. Mae plentyn wrth dyfod i'r byd yn fwy diymadferth ac anhylaw braidd na'r un creadur arall, ac y mae yn para felly am dymhor hir. Mae y creadur- iaid direswm pan yn cael eu bwrw yn mwy galluog a chyfaddasedig i ym- 41