Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CHWEFROR, 1888. GAÎI Y PARCH. H. A. DAVIES, CWMAMAN, Amcanwn ysgrifenu y tro hwn ar destyn pur gyffredin, ac eto yn ddyeithr —Cydwybod, yr hon sydd yn meddiant pob darlíenydd, er efallai mai ychydîg ydyw ei gwaith yn bresenol; ac os felly, ychydig wyddis am dani, hyd y nod gan ei pherchenog. Dy wedwn air ar gydwybod yn ei natur ao yn ei hawdurdod. Cydwybod yn ei nhatur.—Cyduna pawb i ddyweyd fod yr enaid wedi eì gynysgaethu â galluoedd neu gyneddfau amrywiol, ac yn eu plith y gyn- eddf hono a elwir y gydwybod. Ond wrth ofyn beth ydyw cydwybod, ceir atebion gwahanol iawn, a hyny oblegyd yr amrywiol farnau a fodolant mewn perthynas i'r rhan hono o'r enaid y perthyna cydwybod iddi. Pa uu ai perthyn i'r rhan ddeallol ai i'r rhan gynhyrfiadol y mae % Pa un ai barn foesol ai teimlad moesol ydyw ? Pa un ai gwaith cydwybod ydyw dadleni llwybr bywyd ai cynhyrf'u tueddiadcryf irodioyn y liwybr hwnw? Neu a ydyw y gair cydwybod i'w gymeryd am yr oll o'r enaid—am yr oll o'r hyn sydd yn gwahaniaethu y dyn oddiwrth yr anifail % Er fod yr enaid wedi ei fendithio â chyneddfau amrywiol, eto, prin y raeddyliwn ei fod wedi ei ranu y fath, fel y gall un rhaa o hono fod yn actẁe pan y mae y rhanau ereill yn gorphwys ac yn cysgu. Dywed rhai fod hyny yu gan- fyddedig yn y byd anianyddol, trwy fod y naill beth yn cyflawni ei gylch- wasanaeth nodweddiadol ac arbenigol ei hun, yn hollol ar wahan, ac yn annibynol ár y llall. Gwelir hyny, meddir, yn y byd llysieuol, drwy fody gwraidd, y rhisgl, y ddalen, a'r blodeuyn yn gwneud eu gwaith yn anni- bynol ac ar wahan oddiwrth ea gilydd; ac felly hefyd yn nghyfansoddiad ein cyrff, drwy fod y cyUa, y galon, y croen, y llygad, y glust, a'r ffroen yn gwneud eu gwaith yn annibynol—fod y naill yn cyfiawni gwasanaeth ag sydd yn perthyn iddo ef ei hun, ac nid oes un o'r Ueill yn cyfranogi ag ef yn ei gyflawniad. Nid oes profion fod yr enaid yn cynwys rhaniadau felly ; maeyrholienaid, morbelled ag y gwyddom, yn ei holl gyflawniadau yn gweithredu gyda'u gilydd. Mae y myfi hunaniaethol a phersonol yn mhob gweithred. Nis gallwn ddychymygu am adran o'r enaid yn segur pan mae adran arall yn gweithredu. Eto, nid yw yn wir nas gallyr enaid weithredu ond gydag un gyneddf o'r meddwl ar un adeg. Meddylia rhai pan byddöm yn myfyrio, yn teimlo, yn penderfynu, yn gweled, yn cofio, ac yn barnu fod yn rhaid i ni wneud y gwahanol bethau yna mewn