Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

258 HËLŸNTÍOtf Ý b¥ttò. ONLLWYN BRACE yn sydyn ac annysgwyliadwy iawn. Yr oeddem yn ei adwaen yn dda pan yn faohgen ieuanc, egwan, glasliw, yn dechreu pregethu ar y Drum-yr- Onllwyn. Yr oedd ganddo wyneb caredig, Uygad erfyniol, a llais hynod o doddedig a swynol y pryd hwnw. Bu yn pregethu am flynyddoedd yn dderbyniol iawn, gresyn na wnaeth ddal ati hyd y diwedd. Fel bardd feallai y mae enw Onllwyn fwyaf adnabyddus, ac fel marwnadwr yn mysg y beirdd. Yr oedd ei natur agored, garedig, hynaws yn ei wneud yn farwnadwr naturiol. Canodd lawer, ac wylodd fwy. Chwith genym feddwl ei fod yn ei gynar fedd ! GWILYM GWENT. Y mae yntau wedi gadael y byd hwn. Nid oes odid i Grymro nad yw yn gwybod am dano fel cyfansoddwr cerddoriaeth o'r dosbarth mwyaf awen- yddol a swynol. Ymadawodd a Chymru er ys tuag ugain mlynedd yn ol am America. Bu fyw yno yn debyg yr un fath ag yn y wlad hon— gweithio a chanu, a pheidio gweithio na chanu ar yn ail. Bu farw y dydd o'rblaen yn Plymouth, Pa., a chafodd angladd tywysogaidd, Cymry America yn llu yn ei ddilyn i'w fedd. Yr oedd yna ryw debygolrwydd neillduol rhwng y bardd Onllwyn a'r cerddor Gfwilym Gwent. Yr oedd pob un o honynt yn feddianol ar ath- rylith neillduol, a gwendid neillduol. Bu y ddau fyw agos yr un fath, a bu y ddau farw agos yr un pryd, ac y mae gan y ddau ganoedd o ed- mygwyr angerddol yn y wlad hon a'r America yn teimlo hiraeth ar eu hol. NATHAN DYFED a fu farw yn hen, ac yn llawn o ddyddiau. Yr oedd yn hen fardd a llenor oddiar yr oes o'r blaen, ac yr oedd yn dwyn delw yr oes hono yn fwy amlwg na neb a adwaenem. Yr oedd yn adnabyddus iawn fel eìs- teddfodwr, er feallai mai cysgu y byddai lawer pryd mewn llawer un. Mewn hen bethau yr oedd yn ymhyfrydu, a hen eiriau oedd llawer o'r geiriau a ddefnyddiai pan yn canu penill neu englyn. Yr oedd ganddo gartref clyd, a theulu siriol, talentog yn Merthyr Tydfil, a llyfrgeil nad yn aml y ceir ei bath am hen lyfrau. Yr oedd Nathan yn garedig, ac yn boblogaidd dros ben. Yr oedd ei olwg batriarchaidd, a'i oedran teg yn rhoi lle amlwg iddo yn ngwyliau y genedl. Y PR0FESS0R R0BERTS, 0 GAERDYDD, gafodd ei ethol yn Brif athraw Coleg Aberystwyth. Gaiwyd pump o flaen y cynghor, a chafodd Prof. Roberts fwyafrif sylweddol. Llwyddiant iddo i wneud lles lawer. Oa wyf yn carU DuW mewn gwirionedd, yr wyf yn oaru natur mewn gwirion- edd hefyd; ac os wyf yn oaru natur inewn gwirionedd, yr wyf yn caru dyn; feüy, beth bynag a ddywedir i'rgwrthwyneo, nid yw y feti ohariad hyn ond un.