Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

HANES EGLWTS CABFAN. 17 Y pregefchwyr cynorthwyol a lanwent y pulpud yn absenoldeb y gweinidogion oeddynt, John Thomas, Llwyngwyddil; Griffith Jenkins, y Felin; John David (Sion Dafydd), Carfan; John Walters, Llwynybrain, a David Francis—oll yn perthyn i Carfan, a Theophilus Morgan, (Hofíi'r Gof), ac Evan Williams, o Henllan. Yr oedd Sion Dafydd uchod yn wr galluog ac enwog yn ei ddydd. Crydd wrth ei alwedigaeth; ond ar ol hyny cadwai ysgol yn ei dy i ddysgu rhifo, a darllen, ac ysgrifenu ; ac hefyd i ddysgu canu, a rheäeg y gamut. Bu farw yn 1846, ac, ar ei garreg fedd, yny fynwenthon, ceir y desgrifiada ganlyn o hono:— '' Tri dawn gwych oedd ynddo'n goeth, Hanesydd, prydydd a duwinydd doeth, 'Nawr gorphwys yn y llwch y mae, Nes adgyfodo'r cyfiawn rai." Codwyd yma i'r weinidogaeth yr enwog Nun Morgan Harry, cyfaill a chyd- weithiwr Caleb Morris ar uchelfanau y maes yn Llundain a'r byd Seisnig. Ganwyd ef yn Langwm gerllaw yma, aelododd yn Carfan. Yma y dechreuodd bregethu dan feirniadaeth a chyfarwyddyd Sion Dafydd. Pregethodd yma droion wedi iddo fyned i Llundain. Pregethodd Mr. Lewis, Henllan bregeth angladdol iddo yma yn y flwyddyn 1842, testyn, " Efe oedd ganwyll yn llosgi ac yn goleuo, &c. Y Parch. Job Jones o'r Wern, Aberafon hefyd a godwyd yma. Pregethwr gwresog a phoblogaidd. Ond, wedi bod yn y weinidogaeth am 6 mis. gwywodd dan law y darfodegaeth, gormod o dân ; llosgodd y fegin. Claddwyd ef yn mynwent Brynseion yn 1861, yn 27ain mlwydd oed. Daeth lluaws o Aberafon i'r angladd, a llanwent y Cwm a chaniadau hiraethus wrth ymdaith tua'r gladdfa. Hefyd y Parch. S. Thomas a ddechreuodd bregethu yn Carfan. Aeth i Goleg Bryste, ac ymsefydlodd yn gyntaf yn Nailsea, Gwlad yr Haf, wedi hyny yn Turvey, Bedfordshire, yn awr yn Painswick, Gloucestershire, Ue y mae wedi llafurio yn gymeradwy defnyddiol a llwyddianus er ys llawer o flynyddoedd. Dechreuwyd yr Ysgol Sul yma tua'r flwyddyn 1818. Yr oedd un Frittenberg, Iuddew dychweledig yn yr Ysgol Eamadegol gyda'r Parch. Mr. Morgans,| offeiriad y plwyf, yr hwn a gadwai Ysgol Sul am dymor ar loft yr Elusendy yn y pentref. Mae gan John Phillips yn awr Feibl a enillodd yn yr ysgol hon yn wobr am adrodd penodau o Efengyl Ioan pan tua 10 mlwydd oed, Darfyddodd yr ysgol yno yn fuan a chyfodwyd hi yn Carfan. Mae wedi parhau oddiar nyny hyd yn awr, wedi bod yn gymorth i lawer, ac wedi magu gwyr lled gedyrn yn yr ysgrythyrau. Rhif yr ysgol yn 1845 yn ol y Llyfrau Gleision oedd 126. Codwyd yr Ysgoldy yma tua'r flwyddyn 1856, a chynaliwyd Ysgol Frytanaidd ynddo am rai blynyddau gan Maurice WiUiams a Bowen ar ol hyny. Yn y flwyddyn 1854 ymadawodd nifer fawr o aelodau Carfan i ffurfio Eglwys Brynseion, yr hon sydd erbyn hyn wedi myned yn lluosocach na'i mam. Tua'r un amser hefyd ffurfiwyd eglwys yn Panteg, gan aelodau o Carfan yn benaf, a rhai o Sardis. Gwnaeth hyn, yn nghyd ag adeiladiad y Tabernacl, Whitland, ac ymadawiad y gweithwyr tua Morganwg wanhau Carfan yn fawr. Mae llawer o dai wedi syrthio i adfeilion, y gweithwyr a'r tyddynwyr bychain wedi gorfod ymadael, dim gwaith i achlesu a llafurio ar y ffermydd, y cwdyn wedi dyfod yn lle'r crygyn, a'r peirianau yn lle y gwaith llaw. mae hyn yn lleihau y boblogaeth, ac yn gwasgu yn drwm ar lawer eglwys wledig heblaw Carfan. Ac hyd yma, er fod llawer deddf wedi ei llunio i'r amcan, nid oes dim wedi llwyddo i droi wynebau y bobl yn ol at y tir. Er hyny mae yr Annibynwyr yn y plwyf mi dybiaf, yn lluosocech nag y buont erioed. Yn mhlith teuluoedd fuont yn helaeth rnewn lletygarwch, ac yngynorthwyol iawn i'r achos yn Carfan, dylem enwi y Thomasiaid o Glanrhyd, y Lewisiaid o Glanmarles, y Jamesiaid o Penyback, y Morgansiaid o Gierhew, a'r Morrisiaid