Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. CHWEFROR, 1903. Y DIWEDDAR DDEON HOWELL (LLÄWDDEN.) Gan Watcyn Wyn. ' "^ARAWYD Cenedl y Cymry â syndod foreu dydd Gwener, ^, I" Ionawr yr i6eg, pan ymddangosodd yn y newyddiaduron I I dyddiol y newydd am farwolaeth sydyn y Deon Howell y diwrnod cynt. Yr oedd Cymru yn ei adwaen mor dda,ac yn ei garu mor fawr, fel y disgynodd y newydd fel taranfollt ar y wlad, fod dyn moranwyl ac mor adnabyddus wedi ymadael mor sydyn—yn pregethu yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi dydd Sul, Iouawr y neg, ac yn tynu ei anadliad olaf dydd Iau, Ionawr y I5fed. Newydd prudd i Gymru ar ddechreu y nwyddyn newydd fod hen arwr mor gadarn wedi cwympo mor ddirybudd ! Ganwyd David Howell yn y fTwyddyn 1831. Mab ydoedd i'r diweddar John Howell Pencoed, yr hwn oedd yn ddiacon parchus gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac yn fardd a llenor rhagorol. Os ydyin yn cofio yn iawn y mae Cyfrol o Farddoniaeth John Howell wedi ei chyhoeddi er's rhai blynyddau yn ol. Cafodd y bachgen ei fagu yn awyrgylch grefyddol gynes y Methodistiaid Cymreig, ac yn nghanol prydferthion Bro Morganwg, a thebyg i hyny effeithio ar feddwl a chymeriad y llanc. Ymunodd â'r Eglwys Sefydledig yn bur ieuanc, a daeth i sylw cyflym fel pregethwr hyawdl, a dyn cryfa gweithgar dros ben. Bu yn gwasanaethu yn Casteílnedd,Caerdydd,Pwllheli,Wrexham, Gressford, ac yn Tyddewi, ac yn llanw cylchoedd pwysig per- thynol i'r Eglwys ; ac nid oedd yn ei oes feallai un gweinidog perthynol i Eglwys Eoeger, nac yn wir am wn I perthynol i un o'r enwadau, bregethwr Cymraeg a Saesneg mwy dawnus, a