Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y MWYGIWR. Rhif. 138.J IONAWR, 1847. [Cyf. XII. PRIF GYMHWYSDER Y WEINIDOGAETH. Sylwedd y Myfyrdodau canlynol a draddodwyd yn Urddiad y Parch. A. Jenltins, Brynmair, ar y lOfed o Fedi, 1846. Ar ddyinuniad amryw o'r brodyr oedd yn bresenol, anl'onir hwynt i'r Diwygiwb. J. LEWI8, Hiilui. " GWYLIA AKNAT DY HUN," 1 TIM. 4, 16. Anwyl Fbawd,—Gan mai y prif gy- mhwysder i'r swydd ych neillduwyd iddi heddyw yw crefydd bersonol, a chan fod dylanwadau neillduol rymus o fewn cylch y weinidogaeth yn tueddu i'w nhiweidio, meddyliwyf mai nid anmhri- odol fyddai cymeryd cyngor yr apostol, i'w fab Timotheus, yn sylfaen ein myfyr- dodau ar yr achlysur presenol: "Gwylia arnat dy hun." Pa faint bynag o gymhwysderau natur- iol a chelfyddydol, pa mor hyawdl bynag fyddo ei ddoniau, pa mor dreiddiol bynag fyddo ei gyneddfau, pa mor helaeth bynag fyddo ei ddysgeidiaeth, os duwiol- deb fydd yn eisieu neu yn ddiífygiol, nid yw gweinidog ond megys "efydd yn seinio, neu symbal yn tincian ;"—cyffelyb yw i beiriant heb ysgogydd, neu goríf heb enaid. Wrth ddweyd hyn ni fwriedir awgrymu y dirmyg lleiaf ar ddoniau a dysgeidiaeth ddynol—ystyriwn hwynt yn addurniadau prydferth, ac yn gynorth- wyon dymunol — ond ni ddylem gelu oddiwrthym ein hunain y duedd sydd yn yr oes bresenol i roddi mwy o gymerad- wyaeth i bethau addurniadol nag i bethau buddiol, i'r hyn sydd ddymunol nag i'r hyn sydd hanfodol. Dylid bod yn ofalus rhag ymollwng i eithafion. Wrth ddi- wyllio'r deall, ni ddylid esgeuluso'r galon, ac wrth ddiwygio'r galon, ni ddylid dibrisio'r deall. Gan mai duwioldeb ydyw prif flynon defnyddioldeb yn y weinidogaeth, mewn ymddibyniad ar gynorthwyon Ysbryd Duw, ceisiwn ddangos yn— I. Fod ofeum cylch y weinidogaeth efeng- ylaidd ìawer o ddylanwadau ag tydd yn niiceidiol iawn i'r teimladau a'r egwyddor- ion crefyddol. Nid oes dim yn fwy camsyniol, ac yn ei duedd yn fwy niweidiol, nâ'r dybiaeth gyffredin, nad oes ond manteision yn unig i gynydd crefydd yn y swydd weinidog- aethol. Gwir, y mae ynddi ei mhanteis- ion neillduol, ond y mae ynddi hefyd ei hanfanteision neillduol; ac yn aml cyd- btcysir, ac yn fynych gorbwysir, y blaenaf gan yr olaf. Ac fel y byddo i chwi gael rhan briodol yn nghydymdeimlad a gwe- ddiau yr eglwys hon, dylai gael ei ar- graflù ar ei mheddwl fod profedigaethau o rywiau, yn gystal â graddau neülduol, yn eich hamgylchynu. 1. Ni ddylai gweinidog yr efengyl anghofio ei fod mewn perygl neiüduol oddiwrth demtasiynau'r diafol. Fel "milwr da i Iesu Grist," rhaid iddo ymdrechu nid " yn unig yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysog- aethau ac awdurdodau, yn erbyn bydol- lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd:" Eph. 6, 12. Defnyddia'r Fall ei holl gynllwynion dinystriol tuag at lygru ei galon, gwenwyno flỳnonau ei feddwl, halogi ei gymeriad, a gosod terfyn ar ei ddefnyddioldeb. " Rhodia oddiam- gylch fel llew rhuadwy, gan geisio'r neb a allo ei lyncu." Nid yw'r gwaelaf o'r gorlan islaw ei sylw, ond gwell ganddo gael un bugail i'w balfau nâ llawer o'r praidd. Nid oes neb o ganlynwyr Iesu heb wybod am ei ddichellion, achebbrofi ei bicellau tanllyd ; ond try ei holl fag- nelau yn erbyn blaenoriaid y fyddin, canys cyfrif hi yn fwy o ynill i gwymp©